Entries by cynefinmusic

Albwm ‘Ambell I Gân’

Nôl ym mis Tachwedd nes i ganu dwy gân angof o Geredigion fel rhan o sesiwn fyw ar gyfer y gyfres Ambell I Gân ar Radio Cymru. Mi wnaeth y cyflwynydd, sef Gwenan Gibbard, lwyddo i gasglu cymaint o ganeuon difyr ac amrywiol yn ystod y gyfres nes i label Sain penderfynu rhyddhau detholiad o’r […]

Gŵyl Cwlwm Celtaidd

Cefais amser arbennig yng Nglasgow ym mis Chwefror wrth berfformio yn ŵyl Cwlwm Celtaidd gyda Kathleen McInnes a Brendan Begley fel rhan o gyngerdd ‘Mother Tongue’. Roedd yn wych cwrdd â chymaint o artistiaid talentog, a hefyd i fod ymhlith y chwe artist arall oedd yna i gynrychioli Cymru ar lefel rhyngwladol. Gallwch dal lan […]

Gig Gwobr Gŵyl Gwerin Caergrawnt

Ces f’enwebu yn ddiweddar am wobr Christian Raphael, sydd yn cael ei rhedeg yn flynyddol gan Ŵyl Gwerin Caergrawnt a’r ysbrydoledig Christian Raphael. Nod y wobr yw cefnogi artistiaid gwerin sydd yn dod i’r amlwg. Achos y feirws, digwyddodd y sioe ar lein eleni ac felly gallwch wylio’r holl beth yn nôl isod. Mae’n cynnwys […]

Llafur Ni

Wyddoch chi fod bron neb yn tyfu Ceirch Du Bach yng Nghymru bellach? Pam ein bod ni mor barod i droi ein cefnau ar y llafur cynhenid sydd, fel canu gwerin, yn rhan annatod o dreftadaeth cefn gwlad? Gwallgofrwydd llwyr, yn enwedig mewn amser pan mae’r cyflenwad bwyd mor fregus. Mae’n #SeedWeek wythnos yma, ac […]

Folk Radio – Deg Albwm Gorau 2020

Dwi wrth fy modd i gyhoeddi bod Dilyn Afon wedi’i cynnwys yn rhestr ‘Folk Radio’ Deg Albwm Gorau 2020 gan Glenn Kimpton. Darllenwch a gwrandewch fwy yma: https://www.folkradio.co.uk/2020/12/glenn-kimptons-top-ten-albums-2020/a

BBC Radio 4 – Caneuon Olaf Gaia

Fe siaradais gyda Verity Sharp ar Radio 4 yn ddiweddar am len a lle’r gog yn niwylliant Cymru, a’i arwyddocâd yma yn y tirlun. Gallwch wrando arnai’n sgwrsio am ei enwau a gweddau amryw a hefyd clywed fersiwn acapela o’r gân ‘Y Bardd A’r Gwcw’ tua thair munud i mewn yma. https://www.bbc.co.uk/sounds/play/m000k99r

Albwm Cymraeg y Flwyddyn

Dwi wrth fy modd i gyhoeddi bod Dilyn Afon wedi’i enwebu ar gyfer albwm Cymraeg y flwyddyn yn Eisteddfod 2020! Dwi mewn cwmni da iawn hefyd. Mae ‘na gyfle i wrando araf yn sgwrsio gyda Gareth Poster ynglŷn â thaith creu’r albwm isod: