Dilyn Afon

Albwm
Recordiadau Astar Artes

Albwm cyntaf Cynefin. Ffrwyth tair blynedd o ymchwil a gwaith, mae Dilyn Afon yn dilyn cynefinoedd diwylliannol sir Ceredigion, gan ddechrau yn Nyffryn Clettwr – bro ei febyd.

Wrth ddadorchuddio lleisiau, alawon a storiâu coll, mae’r albwm yn rhoi llais modern i dreftadaeth cyfoethog Ceredigion ac yn cyflwyno deunydd angof a bregus mewn golau newydd.  Cynhyrchwyd gan  John Hollis (Catrin Finch/Seckou Keita, Toto La Momposina) 

“A stunning new talent” – The Guardian
“Remarkable..compelling listening” – MOJO
“Evocative and beautiful” – The Folk Show, BBC Radio 2
✰✰✰✰ Beguiling…a distinct debut
” – Songlines
“Epic work” – Living Tradition

“An essential masterpiece in traditional music collection and interpretation, performed to an exemplary level” – Folk Radio
“Quite extraordinary” – Tom Robinson, BBC 6 Music

Dole Teifi

Dole Teifi / Lliw’r Heulwen

Sengl
Recordiadau Astar Artes

Yr ail sengl o album Dilyn Afon sy’n priodi dwy gân ar themâu tebyg – sef cariad a thwyll.

Mae’r gân gyntaf, sy’n creu’r penillion, wedi ei chyflwyno ar sawl ffurf delynegol a melodig yng Ngheredigion. Mae hefyd wedi cael ei chofnodi fel Nos Galan ac Y Bobl Dwyllodrus mewn mwy nag un llawysgrif a recordiad maes. Daw alaw’r fersiwn hon o ogledd y sir ac mae’r geiriau’n gyfuniad o’r rhai a ganwyd gan Thomas Rowlands, ffermwr o Lledrod a Thomas Herbert, Cribyn (a gofnodwyd gan J. Ffos Davies tua chanrif yn ôl). Dyma ddyn ifanc dros ei ben mewn cariad yn gofyn i’w gyfaill am gyngor serch, a’r cyngor yw i ffrwyno ei frwdfrydedd amlwg— ond trwy hynny, mae’n colli ei gyfle a darganfod flwyddyn wedyn bod y ferch yn canlyn â rhywun arall (nid yw’r gân yn dweud os mai ei gyfaill yw’r dyn lwcus neu beidio!)

Mae ail ran y gân sy’n ffurfio’r cytgan, Lliw’r Heulwen, yn dod o Fynydd Bach ger Llanrhystud. Mae’n ddigon posib u ddychmygu mai’r un dyn ifanc torcalonnus sydd yma ag yn y gân gyntaf. Wedi datgan ei gariad, mae’n blino ar ddiffyg ymateb y ferch, yn rhoi’r ffidil yn y tô a derbyn mai unigedd yw ei ran.

Y Fwyalchen Ddu Bigfelen

Sengl
Recordiadau Astar Artes 

Y sengl arweiniol o Dilyn Afon, sef ‘Y Fwyalchen Ddu Bigfelen’. Canwyd yr alaw hon gan Mrs. J Emlyn Jones ger Llandysul ar troad y ganrif diwethaf.

Dyma ymddiddan rhwng bachgen bach ac aderyn du – ond mae’n anodd disgrifio’r gân hon fel canu llatai gan nad yw’r ‘annwyl’ dan sylw yn fenyw. Cymru ei hun yw gwrthrych cariad y bardd. Yn ei hanfod, cân hiraeth yw hi gan fachgen sydd wedi croesi’r ffin i Loegr ac sy’n hiraethu am ei famwlad, a’r cyfan yn cael ei ddeffro ynddo gan ganu persain y deryn du.

Cân Dyffryn Clettwr

Sengl
Recordiadau Astar Artes

Sengl cyntaf Cynefin. O lyfr ‘Hanes Llandysul’ (1896) ac yn wreiddiol gan Edward Rees, Talgarreg. Cafodd hefyd ei chanu gan Kate Davies, Prengwyn – y person olaf mae’n debyg oedd wedi dysgu’r gân ar lafar.

mae’r gân brin yma yn adrodd stori mab afradlon o Ddyffryn Clettwr sydd yn gadael ei gynefin ac yn mynd i forio – ond i ddarganfod bod bywyd yn anodd ac i hiraethu am ei fro enedigol. Rhagarweiniad y gân William Mathias.