Cynefin

Term ffermio yw ‘cynefin’ yn wreiddiol. Mae’n disgrifio’r hen lwybrau arferol a grëir gan ddefaid wrth iddynt llwybri lethrau’r mynyddoedd. Ond mae’r gair wedi mabwysiadu ystyr dyfnach dros y canrifoedd i greu teimlad personol iawn o le, perthyn a’r cyfarwydd. Mae’r arlunydd Kyffin Williams yn disgrifio cynefin fel: 

‘y perthynas rhwng lle eich genedigaeth a magwraeth, yr amgylchfyd lle yr ydych chi’n byw a beth sydd yn gyfarwydd neu’n gyfforddus i chi’.

Cerddor Dyffryn Clettwr Owen Shiers

 

Gwreiddiau

Syniad Owen Shiers, un o frodorion Dyffryn Clettwr yw’r Cynefin hwn. Mae’n brosiect mapio cerddorol sydd yn tynnu llinell o’r gorffennol i’r presennol – gan gychwyn ym mro ei febyd.

Magwyd Owen ar aelwyd gerddorol Gymreig – o’r alawon swynol a grwydrai o weithdy telynau ei Dad i fywyd ysgol a gwyliau megis yr Eisteddfod a’r Cnapan. Ers graddio o Brifysgol Caerfaddon, mae Owen wedi trafod ei sgiliau fel cyfansoddwr a thechnegydd sain ar draws nifer o brosiectau, gan gynnwys nifer o albymau yn stiwdio ‘Real World’ ac ar y record lwyddiannus ‘Clychau Dibon’ gan Catrin Finch & Seckou Keita gyda chynhyrchydd John Hollis. Enwebydd ar gyfer Gwobrau Gwerin Cymru 2019, mae Cynefin yn rhoi llwyfan i Owen i drin ei sgiliau offerynnol a threfnu wrth ddychwelyd yn ôl i’w gwreiddiau.

Caneuon coll

Ar ôl dod o hyd ar hap i hen faled anghofiedig gan faledwr lleol, ysbrydolwyd Owen i ddadorchuddio mwy o storiâu a lleisiau’r werin leol sydd wedi mynd yn angof. Mae ysgoloriaeth o’r ‘Finzi Trust’ wedi cynorthwyo’r gwaith ym mhellach, gan alluo iddo bori trwy archifau anweledig, cael gafael ar hen lyfrau a chasglu caneuon o faledwyr a haneswyr diwylliannol.

Dilyn Afon

Mae’r canlyniad, sef albwm ‘Dilyn Afon yn unigryw, nid yn unig yn ei gwreiddioldeb (ni chanwyd rhai o’r caneuon ers canrifoedd) ond hefyd yn y trefniadau sydd yn uchelgeisiol ac amrywiol. O anifeiliaid sy’n siarad â siwrnai trên trychinebus i synfyfyrion dolefus cariadon, gweithwyr fferm a chrwydriaid unig, mae’r albwm yn rhoi cipolwg unigryw ar ddiwylliant llafar y gorffennol ac i ddiwylliant stori a chân fu unwaith mor llachar. Mae’n symud, stilio ac yn dadorchuddio agweddau angof y gorffennol, wrth hefyd codi cwestiynau o gylch ein hanhwylder modern o ddatgysylltu a diwreiddio.

 

Fideo Torf-ariannu Cynefin