hen eiriau

Geiriau

Un peth sydd yn gosod cerddoriaeth Werin Gymreig ar wahân i’r mathau eraill o gerddoriaeth gynhenid ym Mhrydain, yw bod yna bwyslais mawr ar y geiriau (ar lafar neu’n ysgrifenedig). Mae alawon yn aml yn cael ei defnyddio fel cerbyd i gefnogi a lliwio gorchest lenyddol yr awdur neu’r bardd, yn lle bod yn ddiben yn eu hun. Ceir hefyd nifer o ganeuon sydd yn tarddio o, neu’n dilyn strwythurau barddonol – megis ‘tri thrawiad’ ac sydd yn cynnwys cyflythrennu a odl mewnol cymhleth. Fel canlyniad, mae alawon yn tueddi fod yn byrrach ac yn symlach o’i gymharu gyda’i perthnasau Prydeinig.

Y nod pob tro yw printio’r holl eiriau a’u cyfieithu i’r iaith fain ar gyfer y llyfrynnau sy’n dod gyda albymau. Yn anffodus, goblygiadau hyn bod yna fawr ddim o le i unrhywbeth arall.  Yn lle, rwyf hefyd creu tudalen o eiriau ar gyfer y rhai sydd am wybod mwy am hanes y caneuon a’r geiriau. Ceir hanes pob can cyn bob set o eiriau.

1. Cân O Glod I’r Clettwr
2. Dole Teifi / Lliw’r Ceiroes
3. Y Ddau Farch / Y Bardd A’r Gwcw
4. Y Deryn Du
5. Taith Y Cardi
6. Y Fwyalchen Ddu Bigfelen
7. Lliw’r Ceiroes
8. Broga Bach
9. Cân Dyffryn Clettwr
10. Myn Mair
11. Ffarwel I Aberystwyth

Shimli
1. Helmi
2. Cornicyll
3. Mae’r Nen Yn Ei Glesni
4. Shili Ga Bwd
5. Y Medelwr
6. Cwm Alltcafan
7. Pryd Y Potsiwr
8. Cwrw Bach
9. Pont Llanio
10. Pysgota
11. Faerdre Fach

Can O Glod I’r Clettwr

Oni bai am raglen wreiddiol T. Llew Jones i BBC Cymru, byddai’r gân swynol yma gan Daff Jones wedi diflannu am byth – ac mae’n debyg iddi eistedd yn archifau’r BBC am dros 40 mlynedd cyn i’r rhaglen ddod i olau dydd unwaith eto yn 2016. Peth rhyfedd hefyd nad yw hi’n ymddangos ymhlith caneuon Daff a recordiwyd gan Roy Saer pan ymwelodd â’r hen of yn ei gartref yn Rhydowen ym 1968. Nid oes sôn ar lafar neu ar glawr am darddiad y gân, na theitl iddi ychwaith, felly dylwn fod yn falch bod y pwt o gân yma wedi goroesi.

Mae’r alaw ei hun yn nodweddiadol o nifer o alawon lleddf Cymru, ond y mae hefyd yn sefyll ar ei ben ei hun fel darn cynnil ac unigryw. Mae’r geiriau efallai’n datgelu ychydig mwy ynglŷn â hanes y gân, wrth i’r baledwr ddisgrifio taith bywyd o enedigaeth hyd angau ar lannau’r Afon Clettwr, a hithau’n cychwyn ei thaith ar y rhostir uwchlaw pentref Talgarreg, ac y llifo i’r Teifi ger Melin Dolbantau ar ffin Sir Gar. Er mae’n amlwg yn yr achos yma mai Afon Clettwr yw gwrthrych mawl y bardd, mae’r defnydd o’r gair ‘hogyn’ yn yr ail bennill yn arwyddocaol. Gan nad yw ‘hogyn’ yn air sydd ar lafar yn Ne Ceredigion, mae’n awgrymu bod y gân yn wreiddiol wedi teithio o rywle mwy gogleddol (ac o ryw ddyffryn arall efallai) ac wedi’i haddasu at yr afon yma. Rwyf felly wedi cymryd hyn gam ymhellach ac wedi ‘Ceredigioneiddio’ yr ail bennill er mwyn ei gwneud yn fwy lleol eto.

Ar lannau afon Clettwr, yn blentyn maged fi,
A ches fy suo i gysgu, yn swn ei dyfroedd hi.

Ac yno bum yn chwarae, yn blentyn nwyfus iach,
A cheisio dal brithyllod, yng nghrydiau Cletwr fach.

Mae dŵr yn troi melinau, wrth fyned ar ei hynt,
A rhod y ffatri hefyd, fel yn y dyddiau gynt.

Ymysg y drain a’r eithin, mae’n tarddu ar y rhos,
A llif y blodau gwylltion, o gylch ei ddwy lan dlos.

A phan daw dydd fy nghladdu, torrwch fy meddrod i,
Ger dwy lan afon Clettwr, yn sŵn ei dyfroedd hi.

Y Ddau Farch / Y Bardd A’r Gwcw

Mae’r trac yma’n cynnwys dwy gân delynegol gyda themâu tebyg o anthropomorffaeth a chyfathrebu anifeiliaid.

Casglwyd y cyntaf, Y Ddau Farch, gan frodor o Langeitho. Mae’r gân yn sgwrs rhwng dau geffyl, gyda’r hen un yn galaru am ei ieuenctid coll a chaledi henaint. Fe darodd fi bod natur lawen yr alaw wreiddiol yn gwrthgyferbynnu’n rhyfedd â theimlad trist y naratif, felly mae’r dehongliad newydd hwn yn ceisio adlewyrchu hyn.

Mae ail hanner y trac yn cynnwys rhai o benillion Y Bardd a’r Gwcw a ysgrifennwyd gan Daniel Jones (Daniel ‘Sgubor’, 1777-1859), baledwr crwydrol a fyddai’n lletya weithiau mewn ysgubor yng Nghastell Hywel. Yr oedd yr ymddiddan llon rhwng y bardd (Dafydd ei hun o bosib) a’r gog hwyr yn boblogaidd iawn ledled Cymru ac fe ledodd ar hyd a lled y wlad gan gasglu ato’i hun amrywiaeth ychwanegol o alawon a phenillion. Mae’r fersiwn yma’n seiliedig ar ganu Daff Jones, Rhydowen ym 1968, a recordiwyd gan Roy Saer.

Pan oeddwn ar foreddydd
Yn rhodio ma’s o’m cufydd,
Cyfarfod wneuthum â dau farch
Yn ymgom ar y mynydd (x2)

Dywedai y cel gwannaf
Nawr wrth y ceffyl cryfaf —
“Fe fum i undydd yn fy mharch
Yn gystal march â thitha. (x2)

“Pan es yn hen glunhercyn
Ces gario ŷd i’r felin,
A beth ddigwyddodd i fy rhan
Ond gogred gwan o eisin. (x2)

“Tynasant fy mhedola,
Gyrasant fi i’r mynydda,
A thra bo anadl yn fy ffroen
Ni ddeuaf byth tuag adra.” (x2)

O ’r gwcw, O ’r gwcw, lle buest ti c’yd?
Cyn dod i’r gym’dogaeth, ti aethost yn fud.
Ti gollaist dy amser, pythefnos ym mron,
Ti ddest yn diwedd, â’th ganiad yn llon.

“Fe godais fy adain, yn uchel i’r gwynt
Gan feddwl bod yma tair wythnos yng nghynt.
O paid ti camsynied, na meddwl mor ffôl,
Ond oerwynt y gogledd a’m cadwodd yn ôl.”

O ’r gwcw . . . ayb

Y Deryn Du

Ar un adeg, roedd yr ymddiddan hwn yn boblogaidd iawn ledled Cymru. Mae’r traddodiad Cymraeg yn cynnwys nifer o gerddi lle mae bardd yn ymddiddan gydag aderyn, y rhai enwocaf i’w cael yng ngwaith Dafydd ap Gwilym. Mewn canu llatai o’r fath, mae’r bardd cariadus yn anfon aderyn at ferch gyda neges o gariad. Yr hyn sy’n neilltuo’r gân hon yw’r ffaith nad yw’r bardd wedi dewis pa ferch i’w charu. Yn hytrach mae’r deryn du yn cynnig ‘gwasanaeth cadw oed’ adaroldrwy restru’r holl ferched lleol sydd ar gael!

Yr oedd angen ychydig o waith ditectif i adfer y gân hon. Argraffwyd y geiriau ar daflen faled gan Wasg Gomer, Llandysul tua diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ond heb alaw. Rywsut, llwyddais i ddod o hyd i’r alaw mewn recordiad maes a gafodd ei chanu braidd yn aneglur gan Tom Edwards, Sir y Fflint, yn y Llyfrgell Brydeinig yn Llundain (cofnodwyd 1953). Yn ôl nodiadau’r recordiad, cafodd ei chyfansoddi tua canol y ddeunawfed ganrif gan ddaliwr tyrchod o’r enw David Jones o Landysul ac mae wedi cael ei nodi hefyd gan y baledwr enwog Dic Dywyll yng Nghaernarfon yn y 1830au. Mae’n amlwg fod y gân wedi crwydro ledled Cymru.

Aderyn du sy’n rhodio’m gwledydd,
O ti a ŵyr yr hen a’r newydd,
Roddi di gyngor i fachgenyn
Sydd yn curio ers gwell na blwyddyn.

“O dere’n nes fachgenyn, gwrando,
Cael gwybod beth sydd yn dy flino.
Pan un ai’r byd sy’n troi’n dy erbyn
Neu curio wyt am gariad rhywun.

O, nid y byd sy’n troi’n fy erbyn,
Na churio rwyf am gariad undyn.
Ond gweld y merched glân yn pallu,
Nis gwn i ble i droi i garu.

A roddi di gyngor imi, aderyn du?

“A fynni di yr hen wraig weddw
A’i chot yn llawn yn yml marw,
A’i gwartheg duon yn ei buches?
Fe wnai honno i ti fawrles.”

Ni fynnaf i mo’r hen wraig weddw
Ai chôt yn llawn yn ymyl marw,
Na’i gwartheg duon yn ei buches.
I lanc tlawd ʼdyw hon cyfaddas.

Ni fynna’ i mohono hi, aderyn du.

“A fynni di y ferch yr hwsmon
Sydd yn angen lawen dirion
A ddyra ’i harian i’r cornelau,
A neidia naid am naid i tithau?”

Wel, can ffarwel fo i ti’r deryn,
Wel, dyma’r ferch rwyf fi’n ymofyn.
Tra llong ar fôr a gro mewn afon
Ni fynna’ i byth ond merch yr hwsmon.

Ffarwel i ti, ffarwel i ti, aderyn du

Taith Y Cardi

Cyn i Dr. Beeching dorri’r gwasanaethau rheilffordd leol yn y 1960au, yr oedd Llandysul yn un o nifer o orsafoedd rhanbarthol prysur ar linell Gorllewin Cymru, yn cludo pobl, da a nwyddau ledled y wlad. Mae’r gân lled-Gymraeg hon, sef fersiwn o’r faled Saesneg The Charming Young Widow, yn adrodd helynt cariadon ar y siwrnai drên o Landysul i Lundain.

Argraffwyd gan Wasg Gomer o gwmpas troad y ganrif ddiwethaf, ac mae’n addasiad o gân macaronig (darn sy’n cynnwys cymysgedd o ddwy iaith). Mae’n anarferol am ei defnydd doniol iawn o’r iaith Saesneg. Mae caneuon llatai yn enwog am eu defnydd o ymddiddan yn Saesneg ac yn Gymraeg — yn wir, tarddodd llawer o faledi Cymraeg o ganeuon Saesneg — ond penderfynodd awdur y faled i adrodd ei stori yn ‘Wenglish’. Mae’n aneglur pu’n ai ymgais yr awdur i fod yn eironig sydd yma, neu ai gafael wael ar yr iaith Saesneg sydd wrth wraidd yr arddull (yr oedd y mwyafrif o Gymry yn uniaith Gymraeg ar droad yr ugeinfed ganrif).

I live in Llandysul in Shir Aberteifi
A letter inform me my wncwl was dead
And to go with cyflymder by train up to Llundain
As canoedd o bunau was left me twas said

So I was determin to go on my shwrne
Booko my ticket, first class I was fain!
A widw and me side by side sit together
In the caredge was no one but us and no more

Distawrwydd was broke by my purty companion
And then confersashwn, yndeed til my brain
Was going on the bendro – ‘r’own i bron mynd yn wallgo
For the widw fach lan, that I seen in the train

The widw fach lan I seen in the train

By this time the train it was cum to the stashwn
A cwpwl of miles from big big one in town
The widw she say as she look thro’ the windows
Good goodness alive why there goes Mr. Brown

Nawr she was diflannied, the guard whistle blowin
The train was a-moving but no widw appear
With a pwff and a pwff it was off, I was fear
My wats o where was it, and where was my train?
My pwrs and my ticket, loos tocins were gone
When I found out my colled, Indeed I was cryin
O diar, o diar, Mam anwl beth wnaf i?
The widw fach lan, wel she steals on the train

The widw fach lan, she steals on the train

They let me go achos I no money
And I was wok home for a many a day
When I got to Merthyr I saw Dai Llanybydder
In his ole cart I come home all the way
Now boys o Landysul, now mind you take warnin
Mind you the widows who do cry like the rain
For they sure to rob you of your pwrs and your poced
Like the widw fach lan that I seen in the train

The widw fach lan, I seen in the train

Y Fwyalchen Ddu Bigfelen

Canwyd yr alaw hon gan Mrs. J Emlyn Jones ger Llandysul ac fe’i cofnodwyd yng nghylchgrawn Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru; mae’n fersiwn o Gân y Lleisoniaid a fu’n boblogaidd ledled De Cymru. Mae’r llawysgrif yn nodi bod y casglwr wedi newid hanner y geiriau (sy’n anghyflawn) am rai o’i eiddo ei hun, gan eu britho â Saesneg (mae hyn yn deillio o arfer ym Morgannwg lle cyfarfu glöwyr Cymru â gweithwyr o Loegr am y tro cyntaf). Felly, rwy’ wedi defnyddio’r geiriau Cymraeg a ysgrifennwyd gan Llew Tegid.

Dyma ymddiddan arall gyda deryn du. Fodd bynnag, mae’n anodd disgrifio’r gân hon fel canu llatai gan nad yw’r ‘annwyl’ dan sylw yn fenyw. Cymru ei hun yw gwrthrych cariad y bardd. Yn ei hanfod, cân hiraeth yw hi gan fachgen sydd wedi croesi’r ffin i Loegr ac sy’n hiraethu am ei famwlad, a’r cyfan yn cael ei ddeffro ynddo gan ganu persain y deryn du.

O’r fwyalchen ddu bigfelen,
Swyna’r fron â’th gynnar gân.
Nodau peraidd calon lawen
Ddeffry gôr yr adar mân.

Tyrd i wrando cwyn bachgennyn
Sydd mewn gofid nos a dydd:
Hiraeth creulon sy’n ei ganlyn,
Hiraeth dyr ei galon brudd.

Gado cymoedd ceinion Cymru,
Gado swyn hen wlad y gân,
O mor anhawdd yw gwahanu
Cymro pur a Chymru lân.

Cwyd dy nodau hiraeth calon
Tra rwy’n tario ’ngwlad y Sais,
Mewn atgofion am y Goed-fron
Lle bu gynt mor fwyn dy lais.

Lliw’r Ceiroes

Des ar draws yr alaw anarferol hon mewn casgliad mawr o lawysgrifau o’r enw Melus Seiniau gan y casglwr o fri, Ifor Ceri, (John Jenkins). Casglodd Jenkins diwniau ac alawon o bob cwr o Gymru yn ystod hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg, gan gynnwys nifer helaeth o Geredigion. Nodir mai Evan Thomas o Lanarth a ganodd Lliw’r Ceiroes yn wreiddiol ac fe’i cofnodir yma ar ddisg am y tro cyntaf.

Mae’r gân am loes calon dyn ifanc sydd, mae’n debyg, wedi pechu ei gariad ac felly’n gofyn iddi adael iddo wneud penyd. Gall y gair lliw yn y Gymraeg olygu ‘lliw’ ac ‘ymddangosiad’ ac felly yn yr achos hwn mae Lliw’r Ceiroes yn llysenw neu’n enw cariadus ar gyfer yr anwylyd y mae mor daer am ei hennill yn ôl. Er nad yw mewn cynghanedd gyflawn mae’n benthyg rhai o effeithiau sain y gynghanedd, ac yn enghraifft wych o ddyfeisgarwch geiriol gwerin Cymru.

Lliw’r ceiroes clyw fy nghwyn,
A’r penyd rwyf i’n dwyn.
Meinir fwyn hardd ar dwyn o liw’r don,
Gwaeth hoffi’r eneth wiw, ’run lanwedd, loywedd liw
R’odd i fyw, waeth y briw tan fy mron.

Cytgan
Rwy’n gaeth heb fy math, dan ergyd Ciwpid,
Amheuaeth a hiraeth rwy’n dwyn.
Gwae fi na chawswn fod, yn gloi heb fawr o glod
Cyn i ti ddod ata i yn fwyn.

Dere imi hedd, a’m hachub o fy ngwedd,
Rwy’n flin ac anhun o liw’r don.
Wel, dere dyma’r dydd, ardolwyn rho fi’n rhydd,
Na ro bridd ar fy ngrudd, meinir gron.

Broga Bach

Casglwyd yr alaw hon yn ardal Llandysul ar droad y ganrif ddiwethaf gan aelod o Gymdeithas Alawon Gwerin Cymru. Mae bron yn amhosib adnabod y gân Gymraeg hon fel fersiwn o’r alaw Eingl-Americanaidd Frog Went a Courtin’, ond dyna yw hi. Cafodd ei nodi yn y modd micsolydaidd, graddfa gerddorol anghyffredin iawn yng ngherddoriaeth werin Cymru, sy’n creu rhyw naws ryfedd, tra gwahanol i natur wirion a llawen y gân wreiddiol Saesneg.

Serch hynny, mae tebygrwydd telynegol rhwng y ddwy fersiwn – nid yn annhebyg i hwiangerdd. Ond, mae naws ryfedd yr alaw yn mynd â hi i gyfeiriad gwbl wahanol. Dim ond dau bennill a nodwyd yn y llawysgrif Gymraeg ac felly mae gweddill y gân wedi’i chyfieithu o’r gwreiddiol i gwblhau’r stori.

Broga bach aeth i rodio, twy wy ei di o
Am i dym da di dym to,
Ar gefn ei farch a’i gyfrwy cryno,
Am i dym da di dym to.

Pwy lygadai ond llygoden, twy wy ei di o
Am i dym da di dym to,
I mofyn gwraig i drin ei drefn,
Am i dym da di dym to.

“Cariad bach, a weli di
Rwy’n hoff ohono ti.”
A’r llygoden fach yn glên
Atebodd hithau gyda gwên:

“Dwg fi draw i’r eglwys gwyn
Cawn priodi uno’n dynn
A’r wadd yn ‘ffeiriad i ni’n dau
A phryd o fwyd cyn mynd i’n gwlau.”

Broga bach, annwyl froga bach . . .

Daeth y gath i’r neithior hon,
Dal llygoden fach yn llon.
Y broga — llamodd am ei fyw
A gadael yno’i seren syw.

Un hwyaden ger y llyn
Gafodd froga bach yn syn,
A dyna ddiwedd ar y ddau
A brofodd gariad digon brau.

Broga bach, annwyl froga bach . . .

Cân Dyffryn Clettwr 

Nodir y gân hon, sy’n unigryw i Ddyffryn Cletwr, mewn nodiant sol-ffa tonyddol yng nghefn Hanes Llandysul (Gwasg Gomer, 1896). Darganfûm hefyd recordiad o Kate Davies, Prengwyn yn ei chanu ar gyfer Roy Saer yn ystod y chwedegau. Mae’n go debyg mai Kate, hanesydd, awdur a chantores frwd, oedd y person olaf i ddysgu’r gân hon ar lafar.

Wedi’i chyfansoddi’n wreiddiol gan Edward Rees o Dalgarreg, ar y naill law mae’r gân yn cyfleu’r awydd cyffredin am antur, ac ar y llaw arall yn rhybudd am lwybrau oriog y byd. Dyma hanes y mab afradlon yn gadael bro gynefin Afon Clettwr i fynd yn forwr, ond yn cwrdd â chaledi bywyd; cyn bo hir daw hiraeth am gysur cartref.

Do mi hales amser llawen
Yn yr ysgol yn Llwynrhydowen
Ac wrth ddilyn y pysgotwr
Ar hyd glan yr Afon Clettwr.

’Rôl i’m ddarfod â’r ysgolion
Troes i mas yn fab afradlon,
Ac mi es yn lanc o forwr
Mas o olwg Dyffryn Clettwr.

’Rôl i’r gwyntoedd i ostegu
A’r geirwon donnau i lonyddu,
Cododd cwili’ ar y morwr
I ddod nôl i Ddyffryn Clettwr.

Bûm yn rhodio dolydd Aeron
A chofleidio’r merched gwynion,
Well o lawer gan y morwr
Lodes lân o Ddyffryn Clettwr.

Myn Mair

Cofnodwyd yr alargân hon yn 1963 gan Robin Gwyndaf. Fe’i cafodd gan wraig oedrannus o’r enw Myra Evans yng Nghei Newydd. Bwriad Robin oedd recordio cynifer o hen ganeuon gwerin ag y gallai cyn iddyn nhw fynd yn angof. Ynghyd â’i gydweithiwr Roy Saer, fe gasglon nhw nifer o recordiadau rhyfeddol. Mae’n debyg mai Myra oedd yr olaf i gofio’r gân hon.

Dyma’r unig gân gwylnos sydd wedi goroesi yng Nghymru ac fe’i canwyd y noson cyn yr angladd gan ffrindiau a pherthnasau’r ymadawedig, y gân yn gyfrwng eglur i alar y gymuned. Hyd heddiw mae traddodiad yng Nghymru o gadw cyrff yn y tŷ a derbyn ymwelwyr tan yr angladd. Mae’r gân yn ei hanfod yn ddeiseb i’r Forwyn Fair, ar iddi hi (neu unrhyw un arall sydd â phas VIP drwy’r giatiau perlog) wylio enaid yr ymadawedig, sef plentyn yn y gân hon mae’n bur debyg. Mae natur Gatholig y geiriau yn dangos bod y gân yn hen iawn. Mae’n ymddangos iddi gael ei chadw’n gyfrinach am gannoedd o flynyddoedd yn dilyn y diwygiad, gan y byddai unrhyw un oedd yn cael eu dal yn ei chanu yn debyg iawn o gael eu troi allan o’r capel a bywyd y gymuned.

Fy hatling offrymaf dros enaid dan glo,
Fy nghannwyll offrymaf yn eglwys y fro,
’R offeren weddïa’ saith seithwaith yn daer
Er cadw ei enaid anfarwol, Myn Mair.
Myn Mair, Myn Mair, Myn Mair.

Sant Pawl a Sant Pedr, holl seintiau y nef,
A Mair, Mam y Duwdod, eiriolwch yn gref
Dros iddo gael heddwch, a gwerthfawr ryddhad,
Paradwys agored, a breichiau ei Dad.
Myn Mair, Myn Mair, Myn Mair.

Mam Iesu’r brydferthaf o ferched y byd,
Morwynig Frenhines y nefoedd i gyd,
Dlos lili y dyffryn, gwiw rosyn y nef,
Eiriolwch dros enaid fy nghyfaill yn gref.
Myn Mair, Myn Mair, Myn Mair.

Ffarwel I Aberystwyth

Ceredigion has a rich history of coastal trade and seafaring. This track conveys the hiraeth (longing) of the sailors as they left Cardigan Bay, naming the places and people they had left behind. The bulk of the track consists of a tune collected by Jennie Williams for the 1911 Eisteddfod folk song collecting competition. This melancholic air was sung to her by Dan Evans of Aberystwyth. Williams also collected songs from Evan Rowlands (a butcher on Pier St, famed both for his singing and the giant stuffed bear outside his shop) who had also heard the song being sung by local sailors.

Mae gan Geredigion hanes cyfoethog o fasnach arfordirol a bywyd morwrol. Mae’r trac yma’n cyfleu hiraeth y morwyr wrth iddyn nhw adael Bae Ceredigion, gan enwi’r lleoedd a’r bobl sy’n cael eu gadael ar ôl. Mae rhan helaeth o’r trac yn seiliedig ar alaw a gasglwyd gan Jennie Williams ar gyfer cystadleuaeth casglu caneuon gwerin Eisteddfod 1911. Canodd Dan Evans o Aberystwyth yr alaw alarus hon iddi. Casglodd Williams hefyd ganeuon gan Evan Rowlands, cigydd ar Stryd y Pier (oedd yn enwog am ei ganu – a’r arth enfawr wedi’i stwffio oedd yn sefyll y tu allan i’w siop). Yr oedd Rowlands hefyd wedi clywed y gân yn cael ei chanu gan forwyr lleol.

Mae rhan olaf y trac, Hwylio Adre, yn seiliedig ar ddarn o gân yn llyfr siantis Cymraeg J. Glyn Davies. Wrth ychwanegu’r alaw hon, mae’r trac yn ffurfio cylch parhaus o ymadael a dychwelyd, ac felly’n adlewyrchu profiad cyffredin nifer o hen frodorion arfordir Ceredigion. Byddai llawer o ganeuon fel rhain wedi teithio lan a lawr arfordir Cymru ac ar draws y môr, gan ychwanegu at fasnach gyfoethog y cyfnod, nid yn unig mewn nwyddau, ond mewn diwylliant hefyd.

Ffarwel i Aberystwyth,
Ffarwel i ben Maes Glas,
Ffarwel i dŵr y Castell,
A hefyd Morfa Glas,

Ffarwel i Ben y Parce,
Ffarwel i Figure Four,
Ffarwel i’r ferch fach lana’
Erioed bu’n agor dor.

Ffarwel fo i Lanrhystud
Lle bum i lawer gwaith
Yn caru’n ôl fy ffansi,
Ond ofer bu y gwaith.

Fe fues i’n ei charu
Am bedwar mis ar ddeg.
Cawn weithiau dywydd garw,
Pryd arall dywydd teg.

Ac weithiau cawn hi’n fodlon
I wrando’m cwyn a’m cri,
Ond rhodd ei llaw i arall
A’m calon dorrodd hi.

I Calio, rwy’n canu’n iach,
I Calio, rwy’n canu’n iach,
Hwylio adre’, hwylio adre’ . . .

Helmi

Geirau: Ifan Jones, ac eithrio pennill 4 gan Owen Shiers

Cyn daeth silwair i gymryd drosodd fel y prif ddull o borthi da byw dros y gaeaf, a chyn i’r bêls mawr ddod i fritho’r caeau fel sborau du enfawr, roedd tirwedd wledig Cymru yn glytwaith o gnydau amrywiol, rhai’n bwydo anifeiliaid, rhai yn bwydo pobl. Byddai’r rhain wedi’u haddasu ar gyfer pridd a thopograffeg neilltuol pob rhanbarth, ac oherwydd eu hamrywiaeth, yn cynnig gwytnwch yn wyneb afiechyd a thywydd anrhagweladwy. Roedd cynaeafu yn waith cymunedol mawr, gyda phartïon o weithwyr yn codi teisi ŷd neu ‘helmi’ fel modd o storio’r grawn y tu allan dros y misoedd llym.

Cafodd yr arfer anghofiedig hwn ei goffáu gan ffermwr o Prengwyn, sef Ifan Jones, yn ei gerdd ‘Helmi’. Ynddi mae’n sôn am yr hydref yn ymlwybro dros y bryniau noeth, gan rwygo’r dail oddi ar y coed wrth iddo ysgubo drwy’r dirwedd. Yn ei herio saif byddin dawel o ‘helmi’ yn eu lifrai aur, yn amddiffyn y ffermdy rhag dyfodiad y gaeaf. Heddiw, mae ffermwyr yn talu miloedd o bunnoedd i gael gwared ar y milltiroedd o blastig du maen nhw’n ei ddefnyddio i lapio eu glaswellt ungnwd. Tybed a fyddai Ifan Jones wedi meddwl ei fod yn ryw welliant mawr…

Mae’n dod gan glwyfo’r gelltydd,
A chleisio fel y myn,
A gadael creithiau ar ei ôl
Ar ystlys noeth y bryn.

Er bod ei fflach yn llachar
Hyd gyrrau’r bellaf ffin, –
Mae ôl y storm ac oerlliw’r bedd
Ar wyneb cread crin.

Maent hwy eleni eto
Yn gwarchod tŷ fy nhad ;
Mi wn wrth wylio’r fyddin gref,
I’r hydref dod i’r wlad .

Os ydyw’r hen fro’n goelcerth,
Nid wyf yn ofni’r brad –
Mae gosgordd gref mewn lifrau aur
Yn gwarchod tŷ fy nhad.

Pe baent yn mynd ar wasgar,
Heb ei grawn hynafol bry
Sut ciliwn rhag y gaeaf oer,
A’i hen grafangau hy?

Cornicyll

Geiriau: Owen Shiers

Ers 1930 mae niferoedd y cornicyllod ym Mhrydain wedi syrthio 90%. Heb os, mae newidiadau mewn dulliau amaethu wedi bod yn ffactor mawr yn y dirywiad hwn gan fod mecaneiddio, dwysáu a newidiadau i arferion ffermio âr oll wedi amddifadu’r aderyn ysblennydd hwn o’i gynefin naturiol. Bu eu hedfan acrobatig anhygoel a’u defodau paru gwanwynol unwaith yn ffenomenon cyffredin yn wybrennau cefn gwlad, ond maent bellach ar y cyfan wedi’u cyfyngu i nifer fach o ardaloedd gwarchodedig.

Soniodd y bardd a’r ffermwr Dic Jones, a fagwyd wrth ymyl gwarchodfa’r RSPB yn Ynys Hir, am ddiflaniad y gornchwiglen yn ei gerdd ‘Cornicyll’ (enw arall arni yng Ngheredigion yw ‘Hen Het’, gan fod yr enw yn dwyn tebygrwydd i’w alwadau). Mae’r gân hon wedi’i hysbrydoli gan gerdd Dic, yn ogystal â fy ymweliadau i â gwarchodfa’r Cornicyllod yn Ynys Hir, ac mae’n sylwebaeth ar ddiflaniad yr aderyn o’r dirwedd ac o’r cof diwylliannol. Nid oes enghraifft fwy trawiadol o hyn na’r esiampl ddiweddar o’r cwpl a brynodd ‘Banc Cornicyll’ yn Sir Gaerfyrddin yn newid ei enw i ‘Hakuna matata’ – sy’n golygu ‘dim pryder’, ond ceisiwch ddweud hynny wrth y cornicyll sydd wedi diflannu o’r dirwedd yno — yn gorfforol ac ieithyddol.

Ar ymylon Ynys Hir, yn sisial sŵn y gwynt
Mi glywais lais y cornicyll yn myned ar eu hynt
Cân o’r wybren, dilys pêr, nawr ac yn y man
Fel yna’n ddigon syml daeth, i’m swyno ger y glan
Ac yna fe ddaeth haid o’r nef, yn gwibio tua’r lli
A rywsut ton o heddwch daeth, yn dawel drostaf i

Adar nwyfus, adar cain, ydynt hwy bob un
Yn troelli uwch y draethell noeth, fel dwyfol awyrlu
Dacw nhw a’u hadain chwim, yn glanio gyda stŵr
Fel criw o hen bensiynwyr ffraeth, yn clebran wrth y dŵr
Ac eto’n meiddio, eto’n hel, y dyfroedd gwastad maith
Er gwaetha’r gaeaf garw oer, am olud ar eu taith

Dyma nhw hen hynod lu, heb un yn dangos siom
a welsant gysgod cynnydd nawr, ar hyd y dirwedd lom?
O am ba hyd, y gwelwn ni, eu hediad bywiog hyd?
I’m hebrwng trwy yr hirlwm oer, genhadon gwyn eu byd
Mae ‘na sôn, mai byr bydd tro, eu mawredd yn ein plith
ond callach yw y cornicyll, na sŵn ein gwewyr chwith?

Mae’r Nen Yn Ei Glesni

Geiriau: D. Jacob Davies

Fel mewn rhannau eraill o Brydain, mae gan Gymru draddodiad o ganu carolau Mai fel rhan o’i thraddodiad gwerin. Yn ogystal â dawnsio’r fedwen, byddai grwpiau o gantorion yn codi’n gynnar ac yn mynd o ddrws i ddrws yn canu carolau i groesawu’r gwanwyn (a deffro’r cymdogion!). Yn ogystal â chyhoeddi dyfodiad y tymor newydd, bwriad canu caneuon o’r fath oedd deffro egni’r ddaear i helpu i dyfu cnydau cryf a sicrhau tymor tyfu ffrwythlon.

Yng Nghymru, cyfansoddwyd carolau o’r fath yn draddodiadol ar fesurau barddonol ysgafn a oedd yn aml â rhythm syml, cryf. Mae’r garol hon gan D. Jacob Davies wedi’i chyfansoddi ar fesur tri thrawiad, ac mae’n ddisgrifiad bywiog o’r dirwedd yn glasu, gyda ninnau’n cael ein deffro o’n trwmgwsg gaeafol gan awel deg y gwanwyn. Mae naws orymdeithiol y mesur yn weddol amlwg, fodd bynnag mae wastad wedi fy nharo fod natur araf, lafurus y mesur hwn yn cyferbynnu â llawenydd a bywiogrwydd y tymor dan sylw, ac felly penderfynais roi ei adfywiad ei hun i’r garol a’i chyflymu damaid bach…

Mae’r nen yn ei glesni a’r blodau mewn ffresni,
A’r haul sydd yn codi yn heini ddydd haf;
Myneged fy nghalon ei diolch yn gyson,
Am swynion câr hylon carolaf.

Mae’r adar yn canu a’r bore yn llamu,
A’r awel yn mynnu ein tynnu o’r tŷ;
Daw’r ceiliog a’i ganiad, daw’r wawr â’i gwahoddiad,
O’i chodiad daw galwad o’r gwely.

Daw gwres i’r dyffrynnoedd, y lleiniau a’r llynnoedd,
A haul ar fynyddoedd a ffriddoedd ar ffrwst;
Pob man fydd yn olau, yn iachus, a minnau
Heb boenau na nodau anwydwst.

Ar nawnddyddd ceir heulo, ymorwedd a morio,
A’r wylan yn cwyno wrth hwylio mewn haul;
A mwyniant i minnau yw aros am oriau
Ar lannau mawr erwau môr araul.

Hawddamor i’th ddyddiau a thoreth dy ffrwythau,
Cawn hyfryd aroglau ar dwynau a dôl;
Ar wely o flagur gorffwysaf o’m llafur
Iach dolur cysgadur cysgodol!

Shili Ga Bwd

Geiriau: Dafydd Isfoel

Cyn dyfodiad y GIG, roedd planhigion y cloddiau a pherlysiau o’r ardd yn rhan bwysig o arfogaeth feddyginiaethol pobl wledig Cymru. Cefais fy nghyfareddu wrth ddysgu am briodweddau a defnydd llond llaw o berlysiau gan ddau frawd oedrannus, Cerdin ac Elwyn o fferm Rhiwlig yn Nhregroes wrth ymweld â nhw yng ngwanwyn 2022 . Mae’r brodyr yn hanu o deulu o lysieuwyr gan gynnwys eu chwaer Marged, a oedd yn enwog yn lleol am ei gwybodaeth.

Un planhigyn a gododd yn ein sgwrs — ac a glywais ambell sôn amdano — yw’r wermod, a adnabyddir yng ngodre Ceredigion fel ‘Shili Ga Bwd’. Hyd yn gymharol ddiweddar mae’n ymddangos ei fod yn cael ei dyfu a’i ddefnyddio’n helaeth i drin amryw o anhwylderau, ond erbyn hyn mae wedi diflannu bron yn llwyr o gof y werin. Yn ei gerdd sy’n dwyn yr un enw, disgrifia’r Prifardd Isfoel yn serchog sut y mae ei fam, a oedd yn gofalu am y planhigyn yn ofalus iawn, yn araf ildio i freuder henaint a’r planhigyn yn gwywo a thrigo gyda hi. Mae’n ddarn teimladwy o waith sy’n crisialu gofal a maldod ei fam a’r planhigyn.

Roedd llwyn gan mam hyd y diwedd
Heb arno blodyn na chnwd
Un difalch a hollol werinol
A alwai yn shili ga bwd

Gofalai amdano fel plenty
Pob tywydd oer neu yn frwd
Gan ddod â’i thicanter o’r cyffur
At syched y shili ga bwd

Pan alwai rhyw ffrind ar ei siwrnai
Roedd hi’n ddigyfnewid ei mŵd
Anrhegai pob un cyn ymadael
 sbrigyn o’r shili ga bwd

Aeth Mam yn fethiannus gan henaint
A’r llwyn a ymgrymodd i’w gŵd
A surodd y sawr a’r sirioldeb
A gariai y shili ga bwd

Fe nychodd y gwraidd o dorcalon
A chrinodd y dail yn eu pŵd
A phan aeth ei geidwad i’r beddrod
Aeth yntau y shili ga bwd

Y Medelwr

Geiriau: Richard Davies (Isgarn) ag eithrio pennill 4 gan Owen Shiers

O blith holl feirdd gwlad Ceredigion, mae’r bardd Isgarn yn fwy na neb efallai yn llwyddo i grynhoi hanfod yr hyn a yw bod a’r naill law ar ddolen yr aradr, a’r llall yn gafael mewn pensil. Wedi’i eni ym 1897, treuliodd Richard Davies (neu Isgarn) oes yn briod â thir pori garw ei fferm ynysig yn Iscaron ger Tregaron. Bugail mynydd oedd o wrth ei alwedigaeth, a byddai’n cerdded y pedair milltir ac yn ôl i Dregaron bob wythnos i fynychu dosbarth nos barddoniaeth lle dysgodd grefft y gynghanedd. Dim ond yn dilyn ei farwolaeth y cyhoeddwyd corff o’i waith ac a sylweddolodd Cymru y bardd dawnus a gollwyd.

Mae cerdd Isgarn, ‘Y Medelwr’, yn ymateb uniongyrchol i’r newid chwim mewn arferion amaethyddol a welodd yn ei oes. Un olygfa gyffredin a wyliodd yn diflannu’n gyfan gwbl o’r dirwedd wledig oedd y parti fedel a fyddai’n mynd o fferm i fferm yn cynaeafu ŷd. Mae’r gerdd yn disgrifio’n gariadus y berthynas rhwng y tir a’r medelwr ŷd, gyda’r caeau yn gwingo o dan bwysau’r peirianwaith modern, yn dyheu am ei gamre llwybreiddiol-araf y fedel. Yn ôl yn yr hendre mae cryman yn rhydu yn angof ar y wal, atgof o’r fedel wedi’i gwasgaru fel hadau i’r pedwar gwynt.

Mae’r erwau hirion o dan y glog,
Lle bu e’n dilyn ei aradr a’i og,
Yn chwith amdano’n anesmwyth iawn
Tan eigion melyn o’r puraf rawn.

Yr haf fu’n aeddfedu ei feysydd ŷd
Tyfodd ei ysgub yntau’r un pryd;
Gwelwyd ei gludo gyda’r wawr
I ydlan ddi-drai y cynhaeaf mawr.

Ond yn yr hendre ‘nghrog ar y mur
Mae cryman segur fel enfys ddur,
A rhwd yn ei bwyta, ddarn wrth ddarn,
A choll yw’r hewyd fu gynt yn ei garn.

Gwelwyd e’n dychwel bob tro o’i hynt
O’r erwau arian yn Henffordd gynt;
Ond nawr diobaith ei aros yw,
Am ffordd diadlam am erw Duw.

Daw offer I fedi o glawdd I glawdd
Addewid dengar o orchwyl hawdd
Ond tan ymyrraeth olwynion trwm
Mae’r erwau’n gwingo ar hyd y cwm

Cwm Alltcafan

Geiriau: T. Llew Jones

Buom yn ffodus fel plant yn ein hysgol gynradd fechan yng Nghapel Dewi i gael cwmni’r awdur a’r bardd enwog T. Llew Jones, a fyddai’n dod atom i ddarllen o bryd i’w gilydd. Yr oedd ganddo ryw ffordd arbennig gyda phlant, rhyw fflach yn ei lygad a awgrymai ddrygioni, rhyfeddod a hyfrydwch. Pan oeddwn yn blentyn llowciais ei lyfrau plant, ond nid tan yn ddiweddarach yn fy mywyd y des i werthfawrogi ei ddawn fel bardd.

Roedd gan T. Llew ffordd o gyfathrebu’r dwys a’r dwfn mewn termau syml. Dyn ei fro ydoedd, gŵr ei gynefin. Roedd ganddo ddiddordeb diderfyn ym mhobl a lleoedd ei fro – a nunlle’n fwy felly na lle o’r enw Cwm Alltcafan. Ceunant coediog dwfn ger Pontyweli yw Cwm Alltcafan lle byddai’r bardd yn treulio prynhawniau hafaidd di-rif yn pysgota am damaid yn nyfroedd araf-chwyrlïol y Teifi. Mae ei gerdd o’r un enw yn ein cyfarch gyda chyfres o gwestiynau. Mae’n gofyn a ydym wedi bod i’r fath le? Ac yna’n holi a ydym yn gweld llefydd eraill yn fwy egsotig — gan ein herio bron i ddatgan eu bod yn lefydd mwy nefolaidd. Er ei fod yn ein holi gyda’i dafod yn ei foch, i mi mae’r cwestiynau yn herio ein anhwylder modern o freuddwydio am ddihangfa, tra’n cael ein dadleoli. Mae’r gerdd yn ein hatgoffa o’r harddwch a’r symlrwydd a all fod weithiau ar ein stepen drws.

Fuoch chi yng Nghwm Alltcafan
Lle mae’r haf yn oedi’n hir?
Lle mae’r sane gwcw glasaf?
Naddo? Naddo wir?

Welsoch chi mo afon Teifi’n
Llifo’n araf drwy y cwm?
Welsoch chi mo flodau’r eithin
Ar y llethrau’n garped trwm?

A fûm i’n y Swistir? Naddo.
Na, nac yn yr Eidal chwaith,
Ond mi fûm yng Nghwm Alltcafan
Ym Mehefin lawer gwaith.

Ewch i’r Swistir ac i’r Eidal,
Neu Iwerddon ar eich tro,
Ewch i’r Alban, y mae yno
Olygfeydd godidog, sbo.

Ond i mi rhowch Gwm Alltcafan
Pan fo’r haf yn glasu’r byd,
Yno mae’r olygfa orau,
A chewch gadw’r lleill i gyd.

Welsoch chi mo Gwm Alltcafan,
Lle mae’r coed a’r afon ddofn?
Ewch da chi i Gwm Alltcafan,
Peidiwch oedi’n hwy … rhag ofn!

Pryd y Potsiwr

Geiriau: Owen Shiers

Yn ystod y cyfnod clo cefais wahoddiad i gyfansoddi darn o gerddoriaeth yn seiliedig ar gyfweliad gyda dyn o’r enw Caradog Jones, a fu’n gweithio am dros 40 mlynedd fel beili ar afon Teifi. Roedd y tâp ei hun bron yn 50 mlwydd oed, ac felly cymerais fod Caradog wedi ein hen gadael ni – fodd bynnag, datgelodd cyfarfyddiad ar hap gyda’i gymydog ei fod dal yn fyw ac yn llawn bywyd yn 95 oed! Cefais y pleser ymhen fawr o dro i gwrdd â’r dyn ei hun a chael fy nghyfareddu gyda’i hanesion am oes wedi ei threulio ar lan yr afon.

Fel un o afonydd pysgota gorau Prydain, soniodd Caradog wrthyf am ddigonedd enwog y Teifi (yn ôl y sôn roedd yn bosib cerdded o un lan i’r llall hyd gefnau’r pysgod mewn ambell fan). Fel ffynhonnell doreithiog o fwyd, roedd ganddo ddigon ar ei drensiwn yn ceisio dal y potswyr niferus a fyddai’n mentro lliw nos i lannau’r afon i gipio eog neu ddau o bwll. Aeth llawer i’r llys, ond cymaint oedd cyflwr y boblogaeth wledig ar y pryd, roedd hyn yn aml yn cael ei ystyried yn destun balchder. Heddiw, saif yr afon mewn cyflwr bregus gyda niferoedd yr eog yn ganran fechan o’r hyn yr oeddent – mae rhai hyd yn oed yn rhybuddio y gallai’r crwydryn arian hwn ddiflannu’n gyfan gwbl o’r afon yn y degawdau nesaf.

Y cawr ar y geulan a’i wyneb dan gudd
A ffagl yn un llaw a’r caff yn y llif
Yn droednoeth yn crepian, yn ddistaw trwy’r gro
I ddala pysgodyn dan lety y nos

Yn canlyn yr hydref ers amser cyn co’
Bu samwn yn rhedeg i fyny o’r môr
A’r bechgyn yn dilyn, yn gweithio fel tîm
I ddianc o’r beiliffs ar lannau Teifi

Pan fo’r lloer i lawr ac yn ddu, tra’n lliw nos
Glanio nes i’r wawr, benni pryd y potsiwr
Benni pryd y potsiwr

Roedd bywyd yn galed, ac arian yn dynn
Ac ambell i eog yn ddantaith go brin
Nid testun cywilydd oedd sefyll mewn cwrt
Am fachu pysgodyn wrth ymyl y dŵr

Bu digon i borthi trigolion pob bro
A bwydo holl Lundain, dywed pob sôn
Ond mynnu i erlid gwna’r landlords culni
Y bobl anghenus ar lannau Teifi

Trafferth sydd wrth law tra bod ni yn llygri’n tir
Digon bydd y braw, i achub pryd y potsiwr?
Achub pryd y potsiwr

Os digwydd cael gweled mewn afon neu ryd
Y samwn yn neidio, peidiwch da chwi
A chymryd heb angen, mor fregus nawr sydd
Y pysgod sy’n rhedeg hyd afon Teifi

Cwrw Bach

Gan Rees Jones (Amnon) Talgarreg

Roedd yn arferiad yn ardaloedd gwledig Gorllewin Cymru ’slawer dydd i gadw llygad mas dros eich cymdogion. Roedd nifer yn cael trafferth dwyn deupen llinyn ynghyd ac roedd hi’n hawdd i ddamwain neu salwch gwael — neu waeth — adael teulu heb unrhyw fwyd ar y bwrdd. Roedd cynnal ‘Cwrw Bach’ yn un o’r ffordd o helpu’r rhai mewn angen. Yn ôl yr arferiad, byddai cymydog yn ‘macsi’ neu fragu cwrw cartref, ac yn gwahodd y gymdogaeth draw am barti er mwyn codi pres i’r rhai oedd mewn angen. Mae’r gân hon yn wahoddiad i gwrdd o’r fath.

Wedi’i chyfansoddi gan y bardd ‘Amnon’ neu Rees Jones, Pwllfein (1845) o Dalgarreg a’i gosod i alaw wedi’i haddasu o ganu Kate Davies, Prengwyn, mae’r gân yn sôn yn ddychmygus am y tensiwn tragwyddol rhwng gwahanol agweddau’r seice. Mae Mr. Angen, Syr Hunan, Syr Digywilydd-dra, a Mr. Haelioni oll yn brwydro am oruchafiaeth wrth i’r bardd ymbil arnom i roi hygrededd i agweddau gwell ein natur a chymryd ochr haelioni a charedigrwydd.

Am annerch yr ydwyf bob un yn gariadus
Annoeth fydd fy ‘madrodd, ‘r wy’n eithaf anfedrus
Bydd Mr. Angen yn seithu rhai geiriau
Ac falle Syr Hunan am gloi ar fy ngenau

Bu Angen a Hunan mewn brwydr ysbrydol
Au saethau mileinig yn eithaf gelynol
Clwyfwyd Syr Hunan gan Sir Dig’wylidd-dra
Ac yna fe benwyd Syr Angen yn bena’

Byrdwn
I’r hael, I’r hael a’r elusengar

Yn awr y mae Angen a Gofid I’m blino
Ni chaf fawr lonyddwch yng nghwsg nac yn effro
Y cefn yn noethlwm a’r traed trwy’r esgidiau
O mae’n eithaf helbulus I ateb y biliau

I roddi im’ gyngor mewn gofid ac angen
Fe ddaeth Dig’wilydd-dra yn noethlwm ei dalcen
A’r cyngor a gefais rhag angen agofid
Oedd mynd oddiamgylch I wahodd yn ddiwyd

Bob gradd a phob oedran o’r rhai sydd yn medru
Rhoi parch ac ufydd-dod I Mr. Haelioni
A chofio d’weyd iddo roi’n warant i’w galw
Defnydd britshes o rib, câcs, napcyn a chwrw

Pont Llanio

Geiriau: Phil Rowlands

Ar ddiwedd 2022 ces gyfle i gyfansoddi ychydig o gerddoriaeth ar gyfer ffilm fer oedd yn cael ei chynhyrchu gan grŵp cymunedol yn adrodd stori hen ffatri brosesu llaeth ger Tregaron. O’i gwreiddiau fel llaethdy dirodres yn y 19eg ganrif, tyfodd Pont Llanio (a oedd yn cael ei redeg gan Fwrdd Marchnata Llaeth y wladwriaeth) i gyflogi dros 120 o bobl yn ei anterth yn y 1960au. Byddai gweithwyr yn casglu a phrosesu llaeth o bob rhan o Orllewin Cymru a’i ddosbarthu ledled y wlad o’r orsaf drên a oedd wrth ymyl y ffatri. Daeth y cwmni’n ganolbwynt cymunedol go iawn a byddai’n llwyfan i ddigwyddiadau achlysurol a chyngherddau, yn ogystal â darparu adloniant i blant lleol. Roedd ganddo hefyd ei gaffi a’i dîm pêl-droed ei hun – a hyd yn oed bardd preswyl, sef Phil Rowlands, a anfarwolodd lawer o ddigwyddiadau pwysig y ffatri.

Heddiw mae’r lle yn adfail, wedi mynd yn angof a’i dagu gan chwyn. Caeodd y rheilffordd gyda thoriadau Dr. Beeching yn 1967 a gyda’r preifateiddio a dilynodd yn fuan wedyn, caeodd y ffatri yn y saithdegau cynnar. Yn ystod fy ymchwil ar gyfer y ffilm, bûm yn ffodus i gwrdd ag ychydig o gyn-weithwyr a fu’n hael gyda’u hamser a’u hatgofion, gan gynnwys Lloyd Jones a rhoddodd imi’r gerdd hon gan Phil Rowlands. Wedi’i ysgrifennu ar drothwy’r cau, mae’n adlewyrchu hoffter y gweithwyr o’u cyd-weithwyr ond hefyd y dinistr posibl a oedd yn cael ei wynebu ganddynt bryd hynny. Mae’n deg dweud nad yw’r ardal erioed wedi dod dros y cau.

Ffarwel i’m holl gyfeillion, mae’r chwalfa mawr gerllaw
Rhai yn aros yma, a’r lleill yn symud draw
Hapus fu’r cydweithio trwy y flynyddoedd maeth
Pob gorchwyl megis canu, a neb a’u rudd yn llaith

Byrdwn
Pwy sy’n cofio, cwmni Pont Llanio nawr?

Ar lan y Teifi lonydd, ger stasiwn Jac JP
Atgofion bydd yn aros am gampau’r hapus lu
Am lawer haf hirfelyn, a’r haul a’i wres mor boeth
Y labels coch a’r churnau, a’r merched digri coeth

Neu hen aeafau rhewllyd, a phawb fel ‘on his guard’
Rhag sgid neu sleidio’n sydyn a chwympo ar yr iard
Am fellt a glaw a thyrfau dros waun a bryn a rhos
Neu’r eira mawr un flwyddyn gwnaeth rhai I aros nos

Ffarwel Rhys John a Morgan, Wil Rees hen fechgyn ffein
A gariodd yn nôl y cyfri miliynau woodbine
Ffarwel I’r cwmni diddan ar ddifyr rowns y nos
Pob un a whit neu stori, a neb yn tynnu’r groes

Ni wn pa beth bydd hanes Pontio Llanio cyn bo hir
Mae straeon mawr ar gerdded, ond ydyn nhw yn wir?
Fe ddyweddodd rhywun wrthyf ond methaf coelio’n lân
Y toi’r y hufenfa cyn hir yn ffatri wlan, cyn hir yn ffatri wlan

Pysgota

Geiriau/Words: Isaac Thomas

Pan gyrhaeddodd y mynachod Benedictaidd Llandudoch o Ffrainc ym 1118, daethon gyda nhw dechneg bysgota a ddatblygwyd ar yr Afon Seine ym Mharis. Mabwysiadwyd y dull effeithiol hwn, sy’n defnyddio rhwydi wedi’u pwysoli, yn gyflym gan y bobl leol a daeth yn brif fodd i bobl ar aber afon Teifi gynnal eu hunain am ganrifoedd wedi hynny. Dros 800 o flynyddoedd yn ddiweddarach, ac mae’r gostyngiad sylweddol yn niferoedd yr eogiaid a’r sewin mudol wedi arwain at gyfyngiadau llym ar y niferoedd sy’n cael eu dal, gan wneud yr arfer yn anghynaladwy.

Ychydig cyn y pandemig cefais wahoddiad i berfformio mewn cyngerdd i’r pysgotwyr a’u teuluoedd yn Llandudoch. Yno y dysgais fy hun y dinistr y mae tranc sydyn y traddodiad hwn wedi’i achosi – nid yn unig yn ariannol, ond i hunaniaeth a ysgogwyd gan y ffordd hon o fyw yn y bobl fu’n arfer y gwaith dros genedlaethau di-rif. Ar gyfer y cyngerdd llwyddais i ddod o hyd i faled o ganol y 19eg ganrif sy’n sôn am enwogrwydd Afon Teifi am bysgota a’r niferoedd enfawr o bysgod a llysywod yn ei dyfroedd. Mae’n gân sy’n gwrthgyferbynnu’n llwyr â sefyllfa fregus heddiw, gyda goroesiad yr eogiaid yn yr afon yn dra ansicr.

Rwy’n myned I bysgota yn yr haf, yn yr haf
Le af I gyntaf yn yr haf?
Falle Afon Honndu, glannau gwyrddion Tywi?
Creigiau cedyrn Cothi?
A hefyd afon Teifi yn yr haf, yn yr haf

Llandysul yr af wedyn yn yr haf, yn yr haf
I ddal pysgodyn yn yr haf
Mae rhai yn f’erfyn, yng Nghastell Newydd Emlyn
Cael bara ceirch a menyn
A pheint o enwyn yn yr haf, yn yr haf

Mae Aberteifi’n hynod yn yr haf, yn yr haf,
I ddal llyswennod yn yr haf
Ond be sy’n hynod
Rwyf methu’n lan cael gwybod
Er chwilio llawer diwrnod
Am blu llyswennod yn yr haf, yn yr haf

Os methu gwnaf a dala yn yr haf, yn yr haf,
Ar ôl pysgota yn yr haf
O af I fyned, I’r Black Lion Llambed
Dyna lle caf weled
Ryw griw o ferched blodau’r haf, blodau’r haf

Os caf le cysurus yn yr haf, yn yr haf
Treuliad ynddo deufis yn yr haf
Fynnaf gweision lifre, pedwar o geffylau
I’m llisgo hwyr a bore
Trwy’r holl heolydd yn yr haf yn yr haf
Trwy’r holl heolydd gorau yn yr haf

Rwy’n mynd I bysgota

Faerdre Fach

Geiriau: Owen Shiers

Pan oeddwn yn ymchwilio deunydd ar gyfer albwm cyntaf Cynefin cwrddais â hen ddyn siriol o’r enw Edgar Thomas a oedd ar un adeg wedi bod yn gerddor brwd. Bu Edgar yn gymwynasgar a hael iawn gyda’i amser a byddwn yn mynd rownd i’w dŷ yn Llandysul o bryd i’w gilydd am baned, lle byddai’n hel atgofion am yr hen ddyddiau da fel llanc glew yn tyfu i fyny ar fferm brysur Faerdre Fach dros y cwm o dan Fryngaer Pencoed Foel.

Mae’r gaer ei hun yn dyddio’n ôl i’r Oes Efydd ac mae sibrydion yn yr ardal fod Owain Glyndŵr ei hun fod wedi ei eni yno. Mae Faerdre Fach yn dyddio’n ôl i’r cyfnod canoloesol o leiaf ac mae’n amlwg yn safle o arwyddocâd hanesyddol… ond golygai hyn ddim oll i’r perchnogion newydd pan benderfynon nhw gychwyn sw anwesu yno a’i ailenwi, credwch chi fyth, yn ‘Happy Donkey Hill’. Nid yw enwau lleoedd yn cael eu gwarchod yng Nghymru ac mae’n rhy hawdd o lawer i enwau ddiflannu o’r cof mewn cenhedlaeth. Mae gweithredoedd o fandaliaeth ddiwylliannol fel hyn yn gynyddol gyffredin ac ar hyn o bryd ychydig iawn y gall rhywun ei wneud yn wyneb y fath ansensitifrwydd… heb law ysgrifennu caneuon!

Ar ben y stand yn Faerdre Fach
Mae basged bach o flodau pert
Ac enw newydd ar y lle
Y fangre teg, bu gynt yn aelwyd
Lle oedd y beudy ger y t??
Mae bnb â gardd bach del
A llonydd llethol hyd y lle
Gwacter ble bu galw gwartheg

Ai ein henwau sydd yn drech
Na genau meinion pobl estron?
Neu ddirnad sydd ymhell
O’r awch am loches ymhob calon?
A’r tir yn beichio’n daer
Ein bod yn peidio
Byth anghofio

Yn y gegin mae na sgrin
Yn dangos byd mewn du a gwyn
a’r ffald trwy lens cctv
yn lle lliwgarwch llygaid plentyn

Ar y dôl o dan y caer
Lle gynt bu aur mis awst a’i maeth
Mae deiliad dierth, balch ei gwen
Yn hidio dim am dynniad hiraeth

Ai’n hanes sydd mor bell
O ddeallusrwydd rhai mor afrwydd?
Pa ‘sgytiad bydd y peth
I wared ninnau o’r maen tramgwydd?
A’r tir yn beichio’n daer
Ein bod yn peidio
Byth anghofio