Cynefin?

Beth yw tarddiad y gair ‘cynefin’? A pham ei dewis ar gyfer y prosiect yma?

Syniad cerddorol y canwr gwerin, ymchwilydd, tyfwr grawn a hanesydd diwylliannol Owen Shiers yw’r ‘Cynefin’ yma. Mae’r prosiect yn ddeiseb gerddorol – ymdrech i roi llais i’r unigryw a’r diflanedig yn ein hoes o homogeneiddio ac anghofio. Wedi’i seilio ar flynyddoedd o ymchwil, casglu ac amsugno diwylliant a thraddodiadau ei fro enedigol yn Nyffryn Clettwr, y nod yw rhoi ffenestr i’r gorffennol yn ogystal â dod â materion cyfoes i sylw.

Mae cynefin yn brosiect cerddorol unigryw gyda neges amserol – bryslythyr personol o’r ymgais i gynnal iaith, diwylliant a ffordd o fyw.

Gwrando

Gwyliwch y fideo o brif sengl yr albwm newydd, sef, Helmi.

Helmi yw’r brif sengl o Shimli, albwm newydd Cynefin. Mae’r gân yn cyflwyno geiriau hen gerdd angof gan ffarmwr o Prengwyn, Evan Jones. Yn y gerdd, disgrifia Evans y ffermdy teuluol wedi’i amgylchynu gan fyddin wydn o helmi (teisi ŷd) mewn lifrau aur, gan amddiffyn y trigolion rhag newyn ac oerni’r gaeaf. Er tra rhamantaidd ag y gall y darluniad ymddangos, mae’r gerdd yn gofnod teimladwy a thelynegol o orffennol sydd ddim pell wedi mynd. Nid yn unig mae helmi wedi diflannu o dirwedd Cymru – yn arwyddocaol, felly hefyd y cnydau brodorol a fu unwaith yn bwydo’r genedl. I wlad sydd bellach bron yn gwbl ddibynnol ar fwyd wedi’i fewnforio, efallai bod neges amserol yn ei eiriau.