..Cynefin?

Beth yw tarddiad y gair Cynefin?

A phwy yw’r dyn ar y bont gyda’r gitâr? A lle yn union mae Dyffryn Cletwr?

Os ydych wedi cyrraedd yma gyda rhai cwestiynau, dyw hynny dim y syndod. Mae prosiect Cynefin yn brosiect cerddorol gyda gwahaniaeth. Ffrwyth tair blynedd o ymchwil a gwaith yn casglu, trefnu a recordio caneuon gwerin o Geredigion yw albwm prosiect Cynefn, sef Dilyn Afon.

Dyma brosiect sydd yn anelu i roi Gorllewin Cymru a’i thraddodiadau gwerin fregus yn ôl ar y map.

Gwrandewch..

Gwyliwch y fideo ar gyfer y sengl arweiniol o’r albwm newydd, sef ‘Y Fwyalchen Ddu Bigfelen’.

Canwyd yr alaw hon gan Mrs. J Emlyn Jones ger Llandysul ac fe’i cofnodwyd yng nghylchgrawn Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru; mae’n fersiwn o Gân y Lleisoniaid a fu’n boblogaidd ledled De Cymru ar un adeg.

Dyma ymddiddan rhwng bachgen bach ac aderyn du – ond mae’n anodd disgrifio’r gân hon fel canu llatai gan nad yw’r ‘annwyl’ dan sylw yn fenyw. Cymru ei hun yw gwrthrych cariad y bardd. Yn ei hanfod, cân hiraeth yw hi gan fachgen sydd wedi croesi’r ffin i Loegr ac sy’n hiraethu am ei famwlad, a’r cyfan yn cael ei ddeffro ynddo gan ganu persain y deryn du.