mae't tonnau'n tynnu cynefin Welsh sea shanties

Caneuon a Shantis Mor

Mi wnes i recordio hen faled yn ddiweddar a ddarganfyddais o’r enw ‘Cân Pysgotwyr Cei Newydd’ ar gyfer albwm o Ganeuon Môr Cymreig a Shanties sydd allan nawr ar label Sain. Mae ‘na ambell i drac lyfli arni hi. Cymerwch bip!

Gwobrau Gwerin Cymru 2023

Fis nesaf gweler yr ail Gwobrau Gwerin Cymreig erioed, sy’n anelu i gydnabod a dathlu’r sîn werin yma yng Nghymru (roedd y rhai olaf yn 2019 felly roedd tipyn o ddal i fyny i’w wneud!). Dwi wrth fy modd bod Cynefin wedi derbyn tri enwebiad am yr Albwm Gorau, yr Artist Newydd Gorau, a’r Artist Unigol Gorau. Mae’n wirioneddol yn codi’r calon i weld cymaint mae’r sîn wedi tyfu ers pedair blynedd yn ôl a chymaint mwy o ddiddordeb a brwdfrydedd sydd dros gerddoriaeth werin yng Nghymru.

cynefin folk on foot

Podlediad Folk On Foot

Pleser o’r mwyaf oedd rhannu cilcyn bach o Geredigion gydag Amy-Jane Beer a’r tîm o bodlediad Folk on Foot. Buom yn cerdded, yn siarad, yn canu, yn synfyfyrio, yn rhyfeddu ac yn gyffredinol mwynhau cwmni ein gilydd. Os wnaethoch chi ei golli, gwrandewch ar y bennod yma!

Mae’n rhaid i chi hefyd brynu llyfr Amy ‘The Flow‘, mae’n berl o lyfr sy’n dod yn syth o angerdd a chariad Amy at afonydd a byd naturl (mae ganddi hefyd bennod sy’n cynnwys sgwrs a thiath gyda fi!)







cynefin band tour owen shiers 2022

Taith Band

Mae’r sîn gerddoriaeth wedi cymryd sbel i godi nôl ar ei draed ers y pandemig, ond dwi wrth fy modd i gyhoeddi’r daith cyntaf gyda’r band ers 2019! Roedd y daith y i fod i ddigwydd yn sgil rhyddhau Dilyn Afon dwy flynedd yn nôl, ond am amryw o resymau cafodd ei gwthio yn nôl – tan nawr! Byddwn yn chwarae traciau o Dilyn Afon yn ogystal â rhoi golwg cyntaf ar ddeunydd newydd felly dewch i ddweud helo wrth Alfie, Fred a minnau – a chofiwch i archebu tocynnau o flaen llaw, mae’n gwneud ein bywydau yn llawer mwy haws!

📅 Dates | Dyddiadau

05.11 Rhayader @ The Lost Arc
07.11 Caernarfon @ Galeri
08.11 Aberystwyth @ Canolfan Celfyddydau Arts Centre
09.11 Carmarthen @ Theatr y Lyric Theatre
10.11 Ammanford @ Miners – Theatr y Glowyr
11.11 Felin Fach @ Theatr Felinfach

ambell i gân cynefin

Albwm ‘Ambell I Gân’

Nôl ym mis Tachwedd nes i ganu dwy gân angof o Geredigion fel rhan o sesiwn fyw ar gyfer y gyfres Ambell I Gân ar Radio Cymru. Mi wnaeth y cyflwynydd, sef Gwenan Gibbard, lwyddo i gasglu cymaint o ganeuon difyr ac amrywiol yn ystod y gyfres nes i label Sain penderfynu rhyddhau detholiad o’r caneuon fel albwm – ac y mae hi allan nawr!

Gwrandewch yma: https://sainwales.com/store/sain/sain-2841

cynefin celtic connections

Gŵyl Cwlwm Celtaidd

Cefais amser arbennig yng Nglasgow ym mis Chwefror wrth berfformio yn ŵyl Cwlwm Celtaidd gyda Kathleen McInnes a Brendan Begley fel rhan o gyngerdd ‘Mother Tongue’. Roedd yn wych cwrdd â chymaint o artistiaid talentog, a hefyd i fod ymhlith y chwe artist arall oedd yna i gynrychioli Cymru ar lefel rhyngwladol. Gallwch dal lan a’r uchafbwyntiau yn dwy raglen arbennig i S4C a BBC Cymru isod.
👉 S4C: https://www.bbc.co.uk/iplayer/episode/p0blfln5/gwyl-cwlwm-celtaidd
👉 BBC: https://www.bbc.co.uk/programmes/m0014vbh

Gig Gwobr Gŵyl Gwerin Caergrawnt

Ces f’enwebu yn ddiweddar am wobr Christian Raphael, sydd yn cael ei rhedeg yn flynyddol gan Ŵyl Gwerin Caergrawnt a’r ysbrydoledig Christian Raphael. Nod y wobr yw cefnogi artistiaid gwerin sydd yn dod i’r amlwg. Achos y feirws, digwyddodd y sioe ar lein eleni ac felly gallwch wylio’r holl beth yn nôl isod. Mae’n cynnwys llwyth o artistiaid gwerin wych gan gynnwys Nick Hart, Burd Ellen a Katherine Priddy. Gallwch dal gyfrannu tuag at yr artistiaid yma:

Cynefin Llafur Ni

Llafur Ni

Wyddoch chi fod bron neb yn tyfu Ceirch Du Bach yng Nghymru bellach?

Pam ein bod ni mor barod i droi ein cefnau ar y llafur cynhenid sydd, fel canu gwerin, yn rhan annatod o dreftadaeth cefn gwlad? Gwallgofrwydd llwyr, yn enwedig mewn amser pan mae’r cyflenwad bwyd mor fregus.

Mae’n #SeedWeek wythnos yma, ac nes i treulio prynhawn yn yr Hydref gyda’r Gaia Foundation a chwmni Iwan Evans a Gerald Miles yn cynhyrchu’r ffilm fach yma (sydd yn cynnwys tipyn o ganu gwerin!) i ddenu sylw i’r mater.

Llafur Ni – Our Grains from The Gaia Foundation on Vimeo.



Folk Radio – Deg Albwm Gorau 2020

Dwi wrth fy modd i gyhoeddi bod Dilyn Afon wedi’i cynnwys yn rhestr ‘Folk Radio’ Deg Albwm Gorau 2020 gan Glenn Kimpton. Darllenwch a gwrandewch fwy yma:

https://www.folkradio.co.uk/2020/12/glenn-kimptons-top-ten-albums-2020/a

cuckoo

BBC Radio 4 – Caneuon Olaf Gaia

Fe siaradais gyda Verity Sharp ar Radio 4 yn ddiweddar am len a lle’r gog yn niwylliant Cymru, a’i arwyddocâd yma yn y tirlun. Gallwch wrando arnai’n sgwrsio am ei enwau a gweddau amryw a hefyd clywed fersiwn acapela o’r gân ‘Y Bardd A’r Gwcw’ tua thair munud i mewn yma.

https://www.bbc.co.uk/sounds/play/m000k99r