Torf Ariannu Albwn Cynefin

Torf Ariannu Albwm Cynefin

Fel y gwyddoch efallai, mae’r prosiect Cynefin yn broses o ymchwilio, casglu, dehonglu a pherfformio deunydd gwreiddiol. Mae gen i nawr gwerth albwm o ddeunydd prin o Geredigion, ond dwi angen eich help i’w recordio a rhyddhau. Dwi wedi lansio ymgyrch torfariannu ar Crowdfunder.co.uk, lle gallwch ymroi a chael gwobrwyon ecsgliwsif hefyd, gwelwch y ddolen is:

https://crowdfunder.co.uk/cynefin-the-forgotten-folk-songs-of-west-wales

Sengl Allan!

Mae sengle cyntag Cynefin allan heddiw ar label Astar Artes Recordings. Defnyddiwch y chwaraeydd is i wrando/archebu.

O lyfr ‘Hanes Llandysul’ (1896) ac yn wreiddiol gan Edward Rees, Talgarreg, mae’r gân brin yma yn adrodd stori mab afradlon o Ddyffryn Clettwr sydd yn gadael ei gynefin ac yn mynd i forio – ond i ddarganfod bod bywyd yn anodd ac i hiraethu am ei fro enedigol. Rhagarweiniad y gân William Mathias.

Cip-olwg Ar Sengle Newydd

Dyma chi ragflas ar y sengl newydd sydd yn dod allan mis nesaf. Gallwch wrando ar Sam Lee yn rhoi sbin arno ar ei raglen ‘Nest Collective Hour’ ar orsaf Resonance FM naill trwy ddefnyddio’r chwaraeydd is, neu wrth ymweld â thudalen Resonance FM.

Gigiau Hydref

Dyma cipolwg ar fy nyddiadau yr Hydref yma, mae ‘na fwy o wybodaeth ar y tydalen ‘Gigiau’. 

cynefin gwerin hydref

Gigiau Haf

Dwi dros y lle yr haf yma yn chwarae, felly os ydych yn un o’r gŵyliau yma dewch i ddweud helo!
cerddoriaeth werin gymraeg

Gigiau Gwanwyn

Byddai’n teithio o amgylch yn gigio y gwanwyn yma. Os ydych chi’n agos dewch i ddweud helo, byddai’n chwarae lot o ddeunydd newydd!

Sesiwn BBC Radio Cymru

Nes i alw i fewn i stiwdios y BBC yn Llandaff dydd Llun i sgwrsio gyda Georgia Ruth ynghlyn a beth dwi lan i ar hyn o bryd. Dilynwch y ddolen i glywed ni’n siarad a minnau’n chwarae rhai ddarnai o gerddoriaeth.

http://www.bbc.co.uk/programmes/b08d3lhp