albwm y flwyddyn

Albwm Cymraeg y Flwyddyn

Dwi wrth fy modd i gyhoeddi bod Dilyn Afon wedi’i enwebu ar gyfer albwm Cymraeg y flwyddyn yn Eisteddfod 2020! Dwi mewn cwmni da iawn hefyd. Mae ‘na gyfle i wrando araf yn sgwrsio gyda Gareth Poster ynglŷn â thaith creu’r albwm isod:

bbc radio 3

BBC Radio 3 Folk@Home

cynefin owen shiers

Adolygiadau Albwm Dilyn Afon

cynefin dilyn afon

Dilyn Afon ALLAN NAWR!

BBC Celtic Heartbeat

Blaen-Archebu’r Albwm



Blaen-archebu’r Albwm

Gallwch nawr blaen-archebu albwm cyntaf Cynefin, sef ‘Dilyn Afon’, cyn i’r albwm cael eu rhyddhau ar Ionawr 27ain! Mae’r cryno ddisg yn dod gyda llyfryn bach 30 tudalen sydd yn sôn am yr hanes a’r storiâu sydd tu ôl i’r caneuon.

Gwrandewch i’r sengl arweiniol yma
https://cynefinwales.bandcamp.com/track/y-fwyalchen-ddu-bigfelen-2

Archebwch wrth clicio ar y llun isod.




Sengl Newydd Allan

Mae sengl arweiniol o albwm cyntaf Cynefin, sef ‘Dilyn Afon’ allan nawr! Gallwch wrando ar y gân yn cael ei chwarae am y tro cyntaf ar raglen Lisa Gwilym ar BBC Radio Cymru yma – neu gwrando/clywed y gân isod ar Bandcamp

Canwyd yr alaw hon gan Mrs. J Emlyn Jones yng Ngheredigion ac fe’i cofnodwyd yng nghylchgrawn Cymdeithas Werin Cymru; mae’n fersiwn o n y Lleisoniaid a fu’n boblogaidd ledled De Cymru. Mae’r llawysgrif yn nodi bod y casglwr wedi newid hanner y geiriau (sy’n anghyflawn) am rai o’i eiddo ei hun, gan eu britho â Saesneg (mae hyn yn deillio o arfer ym Morgannwg lle cyfarfu glöwyr Cymru â gweithwyr o Loegr am y tro cyntaf). Felly, rwy’ wedi defnyddio’r geiriau Cymraeg a ysgrifennwyd gan Llew Tegid.

Dyma ymddiddan gyda deryn du. Fodd bynnag, mae’n anodd disgrifio’r gân hon fel canu llatai gan nad yw’r ‘annwyl’ dan sylw yn fenyw. Cymru ei hun yw gwrthrych cariad y bardd. Yn ei hanfod, cân hiraeth yw hi gan fachgen sydd wedi croesi’r ffin i Loegr ac sy’n hiraethu am ei famwlad, a’r cyfan yn cael ei ddeffro ynddo gan ganu persain y deryn du.

 

Sioeau Haf

Gwobrau Gwerin Cymru

Mae eleni yn gweld y Gwobrau Gwerin Cymru cyntaf. Dwi wrth fy modd i ddweud fy mod wedi cael fy enwebu yn y categori ‘artist unigol gorau’. Gallwch wrando ar y noson ar Radio Cymru yn fyw ar yr 11eg o Ebrill.

Mae ‘na fwy o wybodaeth yma:
https://trac.wales/wales-folk-awards-2019/