Podlediad ‘The Songs Podcast’ – Myn Mair
Os i chi’n ffan o hanes a chyd-destun canu gwerin, dyma’r podlediad i chi!
Cefais y pleser mwyaf yn ddiweddar o gael clonc hir (gyda chymorth Jon Wilks o’r The Old Songs Podcast) am y traddodiad yma yng Nghymru a hefyd y gân hynod Myn Mair, sydd a hanes difyr iawn. Ar y ffordd gwnaethon drafod beirdd gwlad, storïwyr, stadau amgen, crefyddau yn gwrthdaro a’r smotyn du yng Ngheredigion. Os i chi’n hoff o bethau felly, rowch glyst iddi fan hyn.