Weithiau i chi’n cychwyn ar rywbeth heb unrhyw syniad sut mae’n mynd i beni lan. Mae sawl tro yn y ffordd wedi digwydd wrth wneud y fideo ma – ond rwy’n meddwl bod y canlyniad ‘di bod gwerth yr ymdrech. Mae rhai o’r prosesau i ni di defnyddio yn wirioneddol arloesol, felly mae’n teimlo’n bwysig i rannu gyda chi ‘chydig ynglyn a sut daethom ni i’r canlyniad terfynol. Ry’ ni wedi defnyddio ffilm, animeiddio, sgrin werdd, ffilm archif, AI – bron bob techneg dan yr haul i gynhyrchu esthetig sy’n gweddu i gerdd wreiddiol Ifan Jones yn fy marn i.
RHAG-ARCHEBU’R ALBWM NEWYDD 🎵
/in Newyddion/by cynefinmusicMae albwm newydd Cynefin, ‘Shimli’, yn hedfan o’i nyth o’r diwedd ar Ionawr 30ain! Mae llwyth o waith wedi mynd mewn i’r gerddoriaeth a’r pecynnu sydd, dwi’n gobeithio, yn gwneud cyfiawnder â’r caneuon, cerddi a straeon sydd yn deillio o ddeilbridd diwylliannol Ceredigion. Dwi methu aros s i chi i gyd ei chlywed!
Gallwch chi rhag-archebu’r CD ‘mlaen llaw yma ar y wefan, neu’r siopau arferol. Gallwch hefyd rhag-archebu lawrlwythiad digidol o @bandcamp. Mae’r fersiynau ffisegol a digidol yn dod gyda llyfryn 35 tudalen yn manylu ar hanes a chefndir yr holl ganeuon (mwy am hyn yn y man!). Os nad yw hynny’n gwneud i chi moyn dwstio’r llwch oddi ar eich chwaraewr CD, beth fydd?




