cynefin helmi video

FIDEO CERDDORIAETH NEWYDD!

Weithiau i chi’n cychwyn ar rywbeth heb unrhyw syniad sut mae’n mynd i beni lan. Mae sawl tro yn y ffordd wedi digwydd wrth wneud y fideo ma – ond rwy’n meddwl bod y canlyniad ‘di bod gwerth yr ymdrech. Mae rhai o’r prosesau i ni di defnyddio yn wirioneddol arloesol, felly mae’n teimlo’n bwysig i rannu gyda chi ‘chydig ynglyn a sut daethom ni i’r canlyniad terfynol. Ry’ ni wedi defnyddio ffilm, animeiddio, sgrin werdd, ffilm archif, AI – bron bob techneg dan yr haul i gynhyrchu esthetig sy’n gweddu i gerdd wreiddiol Ifan Jones yn fy marn i.

Diolch enfawr i Jeanette Gray a Kara Moses am helpu gyda’r wisg ceirch. Hefyd Becky Holden o fferm Hafod am ffilmio a gadael i mi grwydro o gwmpas y fferm gyda chamera – ac yn olaf ond yn sicr nid lleiaf, Lawrence Wheeler a Luke McDonnell o @chiba_creative am eu creadigrwydd a dyfeisgarwch technegol.