Entries by cynefinmusic

Folk Radio – Deg Albwm Gorau 2020

Dwi wrth fy modd i gyhoeddi bod Dilyn Afon wedi’i cynnwys yn rhestr ‘Folk Radio’ Deg Albwm Gorau 2020 gan Glenn Kimpton. Darllenwch a gwrandewch fwy yma: https://www.folkradio.co.uk/2020/12/glenn-kimptons-top-ten-albums-2020/a

BBC Radio 4 – Caneuon Olaf Gaia

Fe siaradais gyda Verity Sharp ar Radio 4 yn ddiweddar am len a lle’r gog yn niwylliant Cymru, a’i arwyddocâd yma yn y tirlun. Gallwch wrando arnai’n sgwrsio am ei enwau a gweddau amryw a hefyd clywed fersiwn acapela o’r gân ‘Y Bardd A’r Gwcw’ tua thair munud i mewn yma. https://www.bbc.co.uk/sounds/play/m000k99r

Albwm Cymraeg y Flwyddyn

Dwi wrth fy modd i gyhoeddi bod Dilyn Afon wedi’i enwebu ar gyfer albwm Cymraeg y flwyddyn yn Eisteddfod 2020! Dwi mewn cwmni da iawn hefyd. Mae ‘na gyfle i wrando araf yn sgwrsio gyda Gareth Poster ynglŷn â thaith creu’r albwm isod:

Blaen-Archebu’r Albwm

Blaen-archebu’r Albwm Gallwch nawr blaen-archebu albwm cyntaf Cynefin, sef ‘Dilyn Afon’, cyn i’r albwm cael eu rhyddhau ar Ionawr 27ain! Mae’r cryno ddisg yn dod gyda llyfryn bach 30 tudalen sydd yn sôn am yr hanes a’r storiâu sydd tu ôl i’r caneuon. Gwrandewch i’r sengl arweiniol yma https://cynefinwales.bandcamp.com/track/y-fwyalchen-ddu-bigfelen-2 Archebwch wrth clicio ar y llun […]

Sengl Newydd Allan

Mae sengl arweiniol o albwm cyntaf Cynefin, sef ‘Dilyn Afon’ allan nawr! Gallwch wrando ar y gân yn cael ei chwarae am y tro cyntaf ar raglen Lisa Gwilym ar BBC Radio Cymru yma – neu gwrando/clywed y gân isod ar Bandcamp Canwyd yr alaw hon gan Mrs. J Emlyn Jones yng Ngheredigion ac fe’i cofnodwyd […]