Sengl Newydd Allan

Mae sengl arweiniol o albwm cyntaf Cynefin, sef ‘Dilyn Afon’ allan nawr! Gallwch wrando ar y gân yn cael ei chwarae am y tro cyntaf ar raglen Lisa Gwilym ar BBC Radio Cymru yma – neu gwrando/clywed y gân isod ar Bandcamp

Canwyd yr alaw hon gan Mrs. J Emlyn Jones yng Ngheredigion ac fe’i cofnodwyd yng nghylchgrawn Cymdeithas Werin Cymru; mae’n fersiwn o n y Lleisoniaid a fu’n boblogaidd ledled De Cymru. Mae’r llawysgrif yn nodi bod y casglwr wedi newid hanner y geiriau (sy’n anghyflawn) am rai o’i eiddo ei hun, gan eu britho â Saesneg (mae hyn yn deillio o arfer ym Morgannwg lle cyfarfu glöwyr Cymru â gweithwyr o Loegr am y tro cyntaf). Felly, rwy’ wedi defnyddio’r geiriau Cymraeg a ysgrifennwyd gan Llew Tegid.

Dyma ymddiddan gyda deryn du. Fodd bynnag, mae’n anodd disgrifio’r gân hon fel canu llatai gan nad yw’r ‘annwyl’ dan sylw yn fenyw. Cymru ei hun yw gwrthrych cariad y bardd. Yn ei hanfod, cân hiraeth yw hi gan fachgen sydd wedi croesi’r ffin i Loegr ac sy’n hiraethu am ei famwlad, a’r cyfan yn cael ei ddeffro ynddo gan ganu persain y deryn du.