hen eiriau

Geiriau

Un peth sydd yn gosod cerddoriaeth Werin Gymreig ar wahân i’r mathau eraill o gerddoriaeth gynhenid ym Mhrydain, yw bod yna bwyslais mawr ar y geiriau (ar lafar neu’n ysgrifenedig). Mae alawon yn aml yn cael ei defnyddio fel cerbyd i gefnogi a lliwio gorchest lenyddol yr awdur neu’r bardd, yn lle bod yn ddiben yn eu hun. Ceir hefyd nifer o ganeuon sydd yn tarddio o, neu’n dilyn strwythurau barddonol – megis ‘tri thrawiad’ ac sydd yn cynnwys cyflythrennu a odl mewnol cymhleth. Fel canlyniad, mae alawon yn tueddi fod yn byrrach ac yn symlach o’i gymharu gyda’i perthnasau Prydeinig.

Fy nod yn wreiddiol oedd printio’r holl eiriau a’u cyfieithu i’r iaith fain ar gyfer llyfryn albwm ‘Dilyn Afon’. Yn anffodus, goblygiadau hyn oedd cynyddu’r llyfryn i dros 70 o dudalennau, ac roedd hyn yn ormod (i lyfryn CD a fy nghyllid i!). Yn lle, rwyf hefyd creu tudalen o eiriau ar gyfer y rhai sydd am wybod mwy am hanes y caneuon a’r geiriau. Ceir hanes pob can cyn bob set o eiriau.

1. Cân O Glod I’r Clettwr
2. Dole Teifi / Lliw’r Ceiroes
3. Y Ddau Farch / Y Bardd A’r Gwcw
4. Y Deryn Du
5. Taith Y Cardi
6. Y Fwyalchen Ddu Bigfelen
7. Lliw’r Ceiroes
8. Broga Bach
9. Cân Dyffryn Clettwr
10. Myn Mair
11. Ffarwel I Aberystwyth

Can O Glod I’r Clettwr

Oni bai am raglen wreiddiol T. Llew Jones i BBC Cymru, byddai’r gân swynol yma gan Daff Jones wedi diflannu am byth – ac mae’n debyg iddi eistedd yn archifau’r BBC am dros 40 mlynedd cyn i’r rhaglen ddod i olau dydd unwaith eto yn 2016. Peth rhyfedd hefyd nad yw hi’n ymddangos ymhlith caneuon Daff a recordiwyd gan Roy Saer pan ymwelodd â’r hen of yn ei gartref yn Rhydowen ym 1968. Nid oes sôn ar lafar neu ar glawr am darddiad y gân, na theitl iddi ychwaith, felly dylwn fod yn falch bod y pwt o gân yma wedi goroesi.

Mae’r alaw ei hun yn nodweddiadol o nifer o alawon lleddf Cymru, ond y mae hefyd yn sefyll ar ei ben ei hun fel darn cynnil ac unigryw. Mae’r geiriau efallai’n datgelu ychydig mwy ynglŷn â hanes y gân, wrth i’r baledwr ddisgrifio taith bywyd o enedigaeth hyd angau ar lannau’r Afon Clettwr, a hithau’n cychwyn ei thaith ar y rhostir uwchlaw pentref Talgarreg, ac y llifo i’r Teifi ger Melin Dolbantau ar ffin Sir Gar. Er mae’n amlwg yn yr achos yma mai Afon Clettwr yw gwrthrych mawl y bardd, mae’r defnydd o’r gair ‘hogyn’ yn yr ail bennill yn arwyddocaol. Gan nad yw ‘hogyn’ yn air sydd ar lafar yn Ne Ceredigion, mae’n awgrymu bod y gân yn wreiddiol wedi teithio o rywle mwy gogleddol (ac o ryw ddyffryn arall efallai) ac wedi’i haddasu at yr afon yma. Rwyf felly wedi cymryd hyn gam ymhellach ac wedi ‘Ceredigioneiddio’ yr ail bennill er mwyn ei gwneud yn fwy lleol eto.

Ar lannau afon Clettwr, yn blentyn maged fi,
A ches fy suo i gysgu, yn swn ei dyfroedd hi.

Ac yno bum yn chwarae, yn blentyn nwyfus iach,
A cheisio dal brithyllod, yng nghrydiau Cletwr fach.

Mae dŵr yn troi melinau, wrth fyned ar ei hynt,
A rhod y ffatri hefyd, fel yn y dyddiau gynt.

Ymysg y drain a’r eithin, mae’n tarddu ar y rhos,
A llif y blodau gwylltion, o gylch ei ddwy lan dlos.

A phan daw dydd fy nghladdu, torrwch fy meddrod i,
Ger dwy lan afon Clettwr, yn sŵn ei dyfroedd hi.

Dole Teifi / Lliw’r Heulwen

Dyma drac sy’n priodi dwy gân ar themâu tebyg – y tro yma cariad a thwyll.

Mae’r gân gyntaf, sy’n creu’r penillion, wedi ei chyflwyno ar sawl ffurf delynegol a melodig yng Ngheredigion. Mae hefyd wedi cael ei chofnodi fel Nos Galan ac Y Bobl Dwyllodrus mewn mwy nag un llawysgrif a recordiad maes. Daw alaw’r fersiwn hon o ogledd y sir ac mae’r geiriau’n gyfuniad o’r rhai a ganwyd gan Thomas Rowlands, ffermwr o Lledrod a Thomas Herbert, Cribyn (a gofnodwyd gan J. Ffos Davies tua chanrif yn ôl). Dyma ddyn ifanc dros ei ben mewn cariad yn gofyn i’w gyfaill am gyngor serch, a’r cyngor yw i ffrwyno ei frwdfrydedd amlwg— ond trwy hynny, mae’n colli ei gyfle a darganfod flwyddyn wedyn bod y ferch yn canlyn â rhywun arall (nid yw’r gân yn dweud os mai ei gyfaill yw’r dyn lwcus neu beidio!)

Mae ail ran y gân sy’n ffurfio’r cytgan, Lliw’r Heulwen, yn dod o Fynydd Bach ger Llanrhystud. Mae’n ddigon posib u ddychmygu mai’r un dyn ifanc torcalonnus sydd yma ag yn y gân gyntaf. Wedi datgan ei gariad, mae’n blino ar ddiffyg ymateb y ferch, yn rhoi’r ffidil yn y tô a derbyn mai unigedd yw ei ran.

Blewyn glas ar lan dŵr Teifi
A dwyllodd lawer buwch i foddi.
Llawer merch a ’nhwyllodd inne
O’r union ffyrdd i’r anial lwybre.

Rown i’n rhodio rhyw foreddydd
Rhwng y glaswellt a’r mân goedydd,
Cwrddyd wnes i â hen gymydog,
Un o’r bradwyr dau-wynebog.

Cynta’ peth ofynnais iddo —
Sut mae caru merch a’i chario?
“Rho di heibio’i chwmni flwyddyn,
Daw i’th garu bob yn ronyn.”

Cytgan
Lliw’r heulwen ar y bronydd, lliw’r lili ar y bryn,
Pan elwi oddi yma, f’anwylyd cofia hyn:
Dy lun, dy law a’th lân ymddygiad, ferch,
A’th anian bert addfwynol sydd wedi tynnu’m serch.

Fe nes gyngor yr hen ffŵl hynny;
Am flwyddyn rhois i heibio’I chwmni
Es yn ôl ymhen y flwyddyn
Gan feddwl cael ei chwmni wedyn.

Y ferch ateb’sai’n hawdd ei deall —
“Ffaelaist ti â chael neb arall.
Cer’ di ʼmhell, na ddea’n agos.
Rwy’n priodi cyn penwythnos.”

Hawdd iawn yw ’nabod sgwarnog, yn rhedeg ar ei ffrwst;
Hawdd iawn yw nabod petris, pan godant ar eu trwst;
Y dderwen fawr, ymysg y meillion mân.
Gwae fi na bai mor hawsed, i ’nabod merch fach lân.

Mae’n rhaid i’r felin falu pan gaffo ati ddŵr;
Mae’n rhaid i’r gof i weithio tra paro’r haearn yn frwd;
Mae’n rhaid i’r ddafad garu’r oen bach tra byddo’n wan;
Mae’n rhaid i minnau gymryd y sawl sydd ar fy rhan.

Y Ddau Farch / Y Bardd A’r Gwcw

Mae’r trac yma’n cynnwys dwy gân delynegol gyda themâu tebyg o anthropomorffaeth a chyfathrebu anifeiliaid.

Casglwyd y cyntaf, Y Ddau Farch, gan frodor o Langeitho. Mae’r gân yn sgwrs rhwng dau geffyl, gyda’r hen un yn galaru am ei ieuenctid coll a chaledi henaint. Fe darodd fi bod natur lawen yr alaw wreiddiol yn gwrthgyferbynnu’n rhyfedd â theimlad trist y naratif, felly mae’r dehongliad newydd hwn yn ceisio adlewyrchu hyn.

Mae ail hanner y trac yn cynnwys rhai o benillion Y Bardd a’r Gwcw a ysgrifennwyd gan Daniel Jones (Daniel ‘Sgubor’, 1777-1859), baledwr crwydrol a fyddai’n lletya weithiau mewn ysgubor yng Nghastell Hywel. Yr oedd yr ymddiddan llon rhwng y bardd (Dafydd ei hun o bosib) a’r gog hwyr yn boblogaidd iawn ledled Cymru ac fe ledodd ar hyd a lled y wlad gan gasglu ato’i hun amrywiaeth ychwanegol o alawon a phenillion. Mae’r fersiwn yma’n seiliedig ar ganu Daff Jones, Rhydowen ym 1968, a recordiwyd gan Roy Saer.

Pan oeddwn ar foreddydd
Yn rhodio ma’s o’m cufydd,
Cyfarfod wneuthum â dau farch
Yn ymgom ar y mynydd (x2)

Dywedai y cel gwannaf
Nawr wrth y ceffyl cryfaf —
“Fe fum i undydd yn fy mharch
Yn gystal march â thitha. (x2)

“Pan es yn hen glunhercyn
Ces gario ŷd i’r felin,
A beth ddigwyddodd i fy rhan
Ond gogred gwan o eisin. (x2)

“Tynasant fy mhedola,
Gyrasant fi i’r mynydda,
A thra bo anadl yn fy ffroen
Ni ddeuaf byth tuag adra.” (x2)

O ’r gwcw, O ’r gwcw, lle buest ti c’yd?
Cyn dod i’r gym’dogaeth, ti aethost yn fud.
Ti gollaist dy amser, pythefnos ym mron,
Ti ddest yn diwedd, â’th ganiad yn llon.

“Fe godais fy adain, yn uchel i’r gwynt
Gan feddwl bod yma tair wythnos yng nghynt.
O paid ti camsynied, na meddwl mor ffôl,
Ond oerwynt y gogledd a’m cadwodd yn ôl.”

O ’r gwcw . . . ayb

Y Deryn Du

Ar un adeg, roedd yr ymddiddan hwn yn boblogaidd iawn ledled Cymru. Mae’r traddodiad Cymraeg yn cynnwys nifer o gerddi lle mae bardd yn ymddiddan gydag aderyn, y rhai enwocaf i’w cael yng ngwaith Dafydd ap Gwilym. Mewn canu llatai o’r fath, mae’r bardd cariadus yn anfon aderyn at ferch gyda neges o gariad. Yr hyn sy’n neilltuo’r gân hon yw’r ffaith nad yw’r bardd wedi dewis pa ferch i’w charu. Yn hytrach mae’r deryn du yn cynnig ‘gwasanaeth cadw oed’ adaroldrwy restru’r holl ferched lleol sydd ar gael!

Yr oedd angen ychydig o waith ditectif i adfer y gân hon. Argraffwyd y geiriau ar daflen faled gan Wasg Gomer, Llandysul tua diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ond heb alaw. Rywsut, llwyddais i ddod o hyd i’r alaw mewn recordiad maes a gafodd ei chanu braidd yn aneglur gan Tom Edwards, Sir y Fflint, yn y Llyfrgell Brydeinig yn Llundain (cofnodwyd 1953). Yn ôl nodiadau’r recordiad, cafodd ei chyfansoddi tua canol y ddeunawfed ganrif gan ddaliwr tyrchod o’r enw David Jones o Landysul ac mae wedi cael ei nodi hefyd gan y baledwr enwog Dic Dywyll yng Nghaernarfon yn y 1830au. Mae’n amlwg fod y gân wedi crwydro ledled Cymru.

Aderyn du sy’n rhodio’m gwledydd,
O ti a ŵyr yr hen a’r newydd,
Roddi di gyngor i fachgenyn
Sydd yn curio ers gwell na blwyddyn.

“O dere’n nes fachgenyn, gwrando,
Cael gwybod beth sydd yn dy flino.
Pan un ai’r byd sy’n troi’n dy erbyn
Neu curio wyt am gariad rhywun.

O, nid y byd sy’n troi’n fy erbyn,
Na churio rwyf am gariad undyn.
Ond gweld y merched glân yn pallu,
Nis gwn i ble i droi i garu.

A roddi di gyngor imi, aderyn du?

“A fynni di yr hen wraig weddw
A’i chot yn llawn yn yml marw,
A’i gwartheg duon yn ei buches?
Fe wnai honno i ti fawrles.”

Ni fynnaf i mo’r hen wraig weddw
Ai chôt yn llawn yn ymyl marw,
Na’i gwartheg duon yn ei buches.
I lanc tlawd ʼdyw hon cyfaddas.

Ni fynna’ i mohono hi, aderyn du.

“A fynni di y ferch yr hwsmon
Sydd yn angen lawen dirion
A ddyra ’i harian i’r cornelau,
A neidia naid am naid i tithau?”

Wel, can ffarwel fo i ti’r deryn,
Wel, dyma’r ferch rwyf fi’n ymofyn.
Tra llong ar fôr a gro mewn afon
Ni fynna’ i byth ond merch yr hwsmon.

Ffarwel i ti, ffarwel i ti, aderyn du

Taith Y Cardi

Cyn i Dr. Beeching dorri’r gwasanaethau rheilffordd leol yn y 1960au, yr oedd Llandysul yn un o nifer o orsafoedd rhanbarthol prysur ar linell Gorllewin Cymru, yn cludo pobl, da a nwyddau ledled y wlad. Mae’r gân lled-Gymraeg hon, sef fersiwn o’r faled Saesneg The Charming Young Widow, yn adrodd helynt cariadon ar y siwrnai drên o Landysul i Lundain.

Argraffwyd gan Wasg Gomer o gwmpas troad y ganrif ddiwethaf, ac mae’n addasiad o gân macaronig (darn sy’n cynnwys cymysgedd o ddwy iaith). Mae’n anarferol am ei defnydd doniol iawn o’r iaith Saesneg. Mae caneuon llatai yn enwog am eu defnydd o ymddiddan yn Saesneg ac yn Gymraeg — yn wir, tarddodd llawer o faledi Cymraeg o ganeuon Saesneg — ond penderfynodd awdur y faled i adrodd ei stori yn ‘Wenglish’. Mae’n aneglur pu’n ai ymgais yr awdur i fod yn eironig sydd yma, neu ai gafael wael ar yr iaith Saesneg sydd wrth wraidd yr arddull (yr oedd y mwyafrif o Gymry yn uniaith Gymraeg ar droad yr ugeinfed ganrif).

I live in Llandysul in Shir Aberteifi
A letter inform me my wncwl was dead
And to go with cyflymder by train up to Llundain
As canoedd o bunau was left me twas said

So I was determin to go on my shwrne
Booko my ticket, first class I was fain!
A widw and me side by side sit together
In the caredge was no one but us and no more

Distawrwydd was broke by my purty companion
And then confersashwn, yndeed til my brain
Was going on the bendro – ‘r’own i bron mynd yn wallgo
For the widw fach lan, that I seen in the train

The widw fach lan I seen in the train

By this time the train it was cum to the stashwn
A cwpwl of miles from big big one in town
The widw she say as she look thro’ the windows
Good goodness alive why there goes Mr. Brown

Nawr she was diflannied, the guard whistle blowin
The train was a-moving but no widw appear
With a pwff and a pwff it was off, I was fear
My wats o where was it, and where was my train?
My pwrs and my ticket, loos tocins were gone
When I found out my colled, Indeed I was cryin
O diar, o diar, Mam anwl beth wnaf i?
The widw fach lan, wel she steals on the train

The widw fach lan, she steals on the train

They let me go achos I no money
And I was wok home for a many a day
When I got to Merthyr I saw Dai Llanybydder
In his ole cart I come home all the way
Now boys o Landysul, now mind you take warnin
Mind you the widows who do cry like the rain
For they sure to rob you of your pwrs and your poced
Like the widw fach lan that I seen in the train

The widw fach lan, I seen in the train

Canwyd yr alaw hon gan Mrs. J Emlyn Jones ger Llandysul ac fe’i cofnodwyd yng nghylchgrawn Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru; mae’n fersiwn o Gân y Lleisoniaid a fu’n boblogaidd ledled De Cymru. Mae’r llawysgrif yn nodi bod y casglwr wedi newid hanner y geiriau (sy’n anghyflawn) am rai o’i eiddo ei hun, gan eu britho â Saesneg (mae hyn yn deillio o arfer ym Morgannwg lle cyfarfu glöwyr Cymru â gweithwyr o Loegr am y tro cyntaf). Felly, rwy’ wedi defnyddio’r geiriau Cymraeg a ysgrifennwyd gan Llew Tegid.

Dyma ymddiddan arall gyda deryn du. Fodd bynnag, mae’n anodd disgrifio’r gân hon fel canu llatai gan nad yw’r ‘annwyl’ dan sylw yn fenyw. Cymru ei hun yw gwrthrych cariad y bardd. Yn ei hanfod, cân hiraeth yw hi gan fachgen sydd wedi croesi’r ffin i Loegr ac sy’n hiraethu am ei famwlad, a’r cyfan yn cael ei ddeffro ynddo gan ganu persain y deryn du.

O’r fwyalchen ddu bigfelen, 
Swyna’r fron â’th gynnar gân. 
Nodau peraidd calon lawen 
Ddeffry gôr yr adar mân.

Tyrd i wrando cwyn bachgennyn 
Sydd mewn gofid nos a dydd: 
Hiraeth creulon sy’n ei ganlyn, 
Hiraeth dyr ei galon brudd.

Gado cymoedd ceinion Cymru, 
Gado swyn hen wlad y gân, 
O mor anhawdd yw gwahanu 
Cymro pur a Chymru lân.

Cwyd dy nodau hiraeth calon 
Tra rwy’n tario ’ngwlad y Sais, 
Mewn atgofion am y Goed-fron 
Lle bu gynt mor fwyn dy lais.

Lliw’r Ceiroes

Des ar draws yr alaw anarferol hon mewn casgliad mawr o lawysgrifau o’r enw Melus Seiniau gan y casglwr o fri, Ifor Ceri, (John Jenkins). Casglodd Jenkins diwniau ac alawon o bob cwr o Gymru yn ystod hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg, gan gynnwys nifer helaeth o Geredigion. Nodir mai Evan Thomas o Lanarth a ganodd Lliw’r Ceiroes yn wreiddiol ac fe’i cofnodir yma ar ddisg am y tro cyntaf.

Mae’r gân am loes calon dyn ifanc sydd, mae’n debyg, wedi pechu ei gariad ac felly’n gofyn iddi adael iddo wneud penyd. Gall y gair lliw yn y Gymraeg olygu ‘lliw’ ac ‘ymddangosiad’ ac felly yn yr achos hwn mae Lliw’r Ceiroes yn llysenw neu’n enw cariadus ar gyfer yr anwylyd y mae mor daer am ei hennill yn ôl. Er nad yw mewn cynghanedd gyflawn mae’n benthyg rhai o effeithiau sain y gynghanedd, ac yn enghraifft wych o ddyfeisgarwch geiriol gwerin Cymru.

Lliw’r ceiroes clyw fy nghwyn,
A’r penyd rwyf i’n dwyn.
Meinir fwyn hardd ar dwyn o liw’r don,
Gwaeth hoffi’r eneth wiw, ’run lanwedd, loywedd liw
R’odd i fyw, waeth y briw tan fy mron.

Cytgan
Rwy’n gaeth heb fy math, dan ergyd Ciwpid,
Amheuaeth a hiraeth rwy’n dwyn.
Gwae fi na chawswn fod, yn gloi heb fawr o glod
Cyn i ti ddod ata i yn fwyn.

Dere imi hedd, a’m hachub o fy ngwedd,
Rwy’n flin ac anhun o liw’r don.
Wel, dere dyma’r dydd, ardolwyn rho fi’n rhydd,
Na ro bridd ar fy ngrudd, meinir gron.

Y Broga Bach

Casglwyd yr alaw hon yn ardal Llandysul ar droad y ganrif ddiwethaf gan aelod o Gymdeithas Alawon Gwerin Cymru. Mae bron yn amhosib adnabod y gân Gymraeg hon fel fersiwn o’r alaw Eingl-Americanaidd Frog Went a Courtin’, ond dyna yw hi. Cafodd ei nodi yn y modd micsolydaidd, graddfa gerddorol anghyffredin iawn yng ngherddoriaeth werin Cymru, sy’n creu rhyw naws ryfedd, tra gwahanol i natur wirion a llawen y gân wreiddiol Saesneg.

Serch hynny, mae tebygrwydd telynegol rhwng y ddwy fersiwn – nid yn annhebyg i hwiangerdd. Ond, mae naws ryfedd yr alaw yn mynd â hi i gyfeiriad gwbl wahanol. Dim ond dau bennill a nodwyd yn y llawysgrif Gymraeg ac felly mae gweddill y gân wedi’i chyfieithu o’r gwreiddiol i gwblhau’r stori.

Broga bach aeth i rodio, twy wy ei di o
Am i dym da di dym to,
Ar gefn ei farch a’i gyfrwy cryno,
Am i dym da di dym to.

Pwy lygadai ond llygoden, twy wy ei di o
Am i dym da di dym to,
I mofyn gwraig i drin ei drefn,
Am i dym da di dym to.

“Cariad bach, a weli di
Rwy’n hoff ohono ti.”
A’r llygoden fach yn glên
Atebodd hithau gyda gwên:

“Dwg fi draw i’r eglwys gwyn
Cawn priodi uno’n dynn
A’r wadd yn ‘ffeiriad i ni’n dau
A phryd o fwyd cyn mynd i’n gwlau.”

Broga bach, annwyl froga bach . . .

Daeth y gath i’r neithior hon,
Dal llygoden fach yn llon.
Y broga — llamodd am ei fyw
A gadael yno’i seren syw.

Un hwyaden ger y llyn
Gafodd froga bach yn syn,
A dyna ddiwedd ar y ddau
A brofodd gariad digon brau.

Broga bach, annwyl froga bach . . .

Cân Dyffryn Clettwr 

Nodir y gân hon, sy’n unigryw i Ddyffryn Cletwr, mewn nodiant sol-ffa tonyddol yng nghefn Hanes Llandysul (Gwasg Gomer, 1896). Darganfûm hefyd recordiad o Kate Davies, Prengwyn yn ei chanu ar gyfer Roy Saer yn ystod y chwedegau. Mae’n go debyg mai Kate, hanesydd, awdur a chantores frwd, oedd y person olaf i ddysgu’r gân hon ar lafar.

Wedi’i chyfansoddi’n wreiddiol gan Edward Rees o Dalgarreg, ar y naill law mae’r gân yn cyfleu’r awydd cyffredin am antur, ac ar y llaw arall yn rhybudd am lwybrau oriog y byd. Dyma hanes y mab afradlon yn gadael bro gynefin Afon Clettwr i fynd yn forwr, ond yn cwrdd â chaledi bywyd; cyn bo hir daw hiraeth am gysur cartref.

Do mi hales amser llawen
Yn yr ysgol yn Llwynrhydowen
Ac wrth ddilyn y pysgotwr
Ar hyd glan yr Afon Clettwr.

’Rôl i’m ddarfod â’r ysgolion
Troes i mas yn fab afradlon,
Ac mi es yn lanc o forwr
Mas o olwg Dyffryn Clettwr.

’Rôl i’r gwyntoedd i ostegu
A’r geirwon donnau i lonyddu,
Cododd cwili’ ar y morwr
I ddod nôl i Ddyffryn Clettwr.

Bûm yn rhodio dolydd Aeron
A chofleidio’r merched gwynion,
Well o lawer gan y morwr
Lodes lân o Ddyffryn Clettwr.

Myn Mair

Cofnodwyd yr alargân hon yn 1963 gan Robin Gwyndaf. Fe’i cafodd gan wraig oedrannus o’r enw Myra Evans yng Nghei Newydd. Bwriad Robin oedd recordio cynifer o hen ganeuon gwerin ag y gallai cyn iddyn nhw fynd yn angof. Ynghyd â’i gydweithiwr Roy Saer, fe gasglon nhw nifer o recordiadau rhyfeddol. Mae’n debyg mai Myra oedd yr olaf i gofio’r gân hon.

Dyma’r unig gân gwylnos sydd wedi goroesi yng Nghymru ac fe’i canwyd y noson cyn yr angladd gan ffrindiau a pherthnasau’r ymadawedig, y gân yn gyfrwng eglur i alar y gymuned. Hyd heddiw mae traddodiad yng Nghymru o gadw cyrff yn y tŷ a derbyn ymwelwyr tan yr angladd. Mae’r gân yn ei hanfod yn ddeiseb i’r Forwyn Fair, ar iddi hi (neu unrhyw un arall sydd â phas VIP drwy’r giatiau perlog) wylio enaid yr ymadawedig, sef plentyn yn y gân hon mae’n bur debyg. Mae natur Gatholig y geiriau yn dangos bod y gân yn hen iawn. Mae’n ymddangos iddi gael ei chadw’n gyfrinach am gannoedd o flynyddoedd yn dilyn y diwygiad, gan y byddai unrhyw un oedd yn cael eu dal yn ei chanu yn debyg iawn o gael eu troi allan o’r capel a bywyd y gymuned.

Fy hatling offrymaf dros enaid dan glo,
Fy nghannwyll offrymaf yn eglwys y fro,
’R offeren weddïa’ saith seithwaith yn daer
Er cadw ei enaid anfarwol, Myn Mair.
Myn Mair, Myn Mair, Myn Mair.

Sant Pawl a Sant Pedr, holl seintiau y nef,
A Mair, Mam y Duwdod, eiriolwch yn gref
Dros iddo gael heddwch, a gwerthfawr ryddhad,
Paradwys agored, a breichiau ei Dad.
Myn Mair, Myn Mair, Myn Mair.

Mam Iesu’r brydferthaf o ferched y byd,
Morwynig Frenhines y nefoedd i gyd,
Dlos lili y dyffryn, gwiw rosyn y nef,
Eiriolwch dros enaid fy nghyfaill yn gref.
Myn Mair, Myn Mair, Myn Mair.

Ffarwel I Aberystwyth

Ceredigion has a rich history of coastal trade and seafaring. This track conveys the hiraeth (longing) of the sailors as they left Cardigan Bay, naming the places and people they had left behind. The bulk of the track consists of a tune collected by Jennie Williams for the 1911 Eisteddfod folk song collecting competition. This melancholic air was sung to her by Dan Evans of Aberystwyth. Williams also collected songs from Evan Rowlands (a butcher on Pier St, famed both for his singing and the giant stuffed bear outside his shop) who had also heard the song being sung by local sailors.

Mae gan Geredigion hanes cyfoethog o fasnach arfordirol a bywyd morwrol. Mae’r trac yma’n cyfleu hiraeth y morwyr wrth iddyn nhw adael Bae Ceredigion, gan enwi’r lleoedd a’r bobl sy’n cael eu gadael ar ôl. Mae rhan helaeth o’r trac yn seiliedig ar alaw a gasglwyd gan Jennie Williams ar gyfer cystadleuaeth casglu caneuon gwerin Eisteddfod 1911. Canodd Dan Evans o Aberystwyth yr alaw alarus hon iddi. Casglodd Williams hefyd ganeuon gan Evan Rowlands, cigydd ar Stryd y Pier (oedd yn enwog am ei ganu – a’r arth enfawr wedi’i stwffio oedd yn sefyll y tu allan i’w siop). Yr oedd Rowlands hefyd wedi clywed y gân yn cael ei chanu gan forwyr lleol.

Mae rhan olaf y trac, Hwylio Adre, yn seiliedig ar ddarn o gân yn llyfr siantis Cymraeg J. Glyn Davies. Wrth ychwanegu’r alaw hon, mae’r trac yn ffurfio cylch parhaus o ymadael a dychwelyd, ac felly’n adlewyrchu profiad cyffredin nifer o hen frodorion arfordir Ceredigion. Byddai llawer o ganeuon fel rhain wedi teithio lan a lawr arfordir Cymru ac ar draws y môr, gan ychwanegu at fasnach gyfoethog y cyfnod, nid yn unig mewn nwyddau, ond mewn diwylliant hefyd.

Ffarwel i Aberystwyth,
Ffarwel i ben Maes Glas,
Ffarwel i dŵr y Castell,
A hefyd Morfa Glas,

Ffarwel i Ben y Parce,
Ffarwel i Figure Four,
Ffarwel i’r ferch fach lana’
Erioed bu’n agor dor.

Ffarwel fo i Lanrhystud
Lle bum i lawer gwaith
Yn caru’n ôl fy ffansi,
Ond ofer bu y gwaith.

Fe fues i’n ei charu
Am bedwar mis ar ddeg.
Cawn weithiau dywydd garw,
Pryd arall dywydd teg.

Ac weithiau cawn hi’n fodlon
I wrando’m cwyn a’m cri,
Ond rhodd ei llaw i arall
A’m calon dorrodd hi.

I Calio, rwy’n canu’n iach,
I Calio, rwy’n canu’n iach,
Hwylio adre’, hwylio adre’ . . .