Cynefin

cynefin welsh folk

Term ffermio yw ‘cynefin’ yn wreiddiol. Mae’n disgrifio’r hen lwybrau arferol a grëir gan ddefaid wrth iddynt llwybri lethrau’r mynyddoedd. Ond mae’r gair wedi mabwysiadu ystyr dyfnach dros y canrifoedd i greu teimlad personol iawn o le, perthyn a’r cyfarwydd. Mae’r arlunydd Kyffin Williams yn disgrifio cynefin fel ‘y perthynas rhwng lle eich genedigaeth a magwraeth, yr amgylchfyd lle yr ydych chi’n byw a beth sydd yn gyfarwydd neu’n gyfforddus i chi’.

Syniad Owen Shiers, un o frodorion Dyffryn Clettwr yw’r Cynefin hwn, ac y mae’n daith i ddarganfod tirwedd gerddorol Ceredigion a Gorllewin Cymru. Ar ôl dod o hyd ar hap i hen faled anghofiedig gan faledwr lleol, ysbrydolwyd Owen i ddadorchuddio mwy o storiâu a lleisiau’r werin leol sydd wedi mynd yn angof. Mae ysgoloriaeth o’r ‘Finzi Trust’ wedi cynorthwyo’r gwaith ym mhellach, gan alluo iddo bori trwy archifau anweledig, cael gafael ar hen lyfrau a chasglu caneuon o faledwyr a haneswyr diwylliannol.

O gwynion hen felinwyr, doethinebau baledwyr a straeon pob dydd y werin bobl – mae’r deunydd dilynol yn unigryw, nid yn unig yn eu gwreiddioldeb (dyma’r tro cyntaf i rai o’r caneuon can eu canu am ganrifoedd) ond hefyd yn y trefniadau sydd yn wahanol ac yn uchelgeisiol.